1Caraf Iehofa canys gwrandawodd
Ar lef fy ymbiliau.
2Yn wir, gostyngodd Ei glust ataf,
Am hynny galwaf ar enw Iehofa.
3Maglau angau oedd o’m cwmpas,
Daliodd cyfyngderau Annwn fi,
Ing a blinder a’m daliodd.
4Yna gelwais ar enw Iehofa,
“Atolwg, Iehofa, gwared fi”.
5Graslawn a chyfiawn yw Iehofa,
A thosturiol yw ein Duw ni.
6Ceidwad y diniwed yw Iehofa;
Nychais, ond gwaredodd fi.
7O fy enaid, tro i’th unig orffwysfa,
Canys deliodd Iehofa yn hael â thi.
8Gwaredaist fy mywyd rhag angau,
Fy llygaid rhag dagrau,
A’m traed rhag llithro.
9Rhodiaf o flaen Iehofa,
Yn nhir y byw.
10Ni phallodd fy ffydd, er dywedyd ohonof,
“Cystuddiwyd fi’n dost”;
11Ac er meddwl ohonof yn fy mraw,
“Nid oes goel i’w roi ar undyn”.
12Beth a dalaf i Iehofa
Am Ei haelioni mawr i mi?
13Codaf gwpan iechydwriaeth,
A galwaf ar enw Iehofa.
14Talaf fy addunedau i Iehofa,
Yng ngŵydd yr holl bobl.
15Gwerthfawr yng ngolwg Iehofa
Yw marwolaeth Ei anwyliaid ffyddlon.
16O Iehofa, Dy was ydwyf yn wir,
Dy was Di, a mab Dy lawforwyn.
Datodaist fy rhwymau.
17Aberthaf i Ti aberth diolch,
A galwaf ar enw Iehofa.
18Talaf fy addunedau i Iehofa,
Yng ngŵydd yr holl bobl,
19Yng nghynteddau tŷ Iehofa,
Yn dy ganol di, O Ieriwsalem.
Haleliwia.
salm cxvi
Yn y cyfieithiad Groeg rhennir y Salm hon yn ddiangen yn ddwy. Ni wyddys ddim am ei hawdur, ond dengys ddibynnu helaeth ar Salmau eraill. Cydnebydd ddaioni yr Arglwydd yn ei wared o ryw afiechyd blin a fu bron yn angau iddo, a dengys ei ddiolchgarwch trwy addunedu iddo. Dylid dodi’r ‘Haleliwia’ sy’n diweddu Salm 115 ar ddechrau hon.
Nodiadau1, 2. Bu raid newid ychydig ar y testun i sicrhau’r darlleniad hwn. Sylwer mor aml y digwydd y byrdwn “Am hynny y galwaf ar enw Iehofa” yn y Salm.
3, 4, Gwêl Salm 18:4. Pa afiechyd neu berygl oedd hwn, yr oedd bron a bod yn angau iddo? Y mae’r ‘galw ar enw Iehofa’ yn gyfystyr â’i addoli.
5—7. “Ceidwad y diniwed”, — un o eiriau mawr y Llên Doethineb ydyw’r gair a gyfieithir yma yn “diniwed”, a defnyddir ef yma mewn ystyr dda, sef am un diddichell a di-feddwl-drwg, ac oherwydd hynny yn hawdd i’w hudo ar gyfeiliorn. Gorffwysfa y Salmydd yn 7 ydyw Iehofa Ei hun.
8—9. Oherwydd trugaredd yr Arglwydd ‘tir y byw’ yw ei ran, ac nid y fro farwol fud, Sheol. Gweddus felly ydyw iddo rodio o flaen yr Arglwydd gan ryngu Ei fodd.
10, 11. Rhan o ofidiau y Salmydd a edrydd ei brofiad personol yma ydoedd enllibwyr celwyddog o’i gwmpas. Nid cyhoeddi pob dyn yn gelwyddog a wna, ond cyhoeddi nad oes neb o’i gwmpas y gellid ymddiried ynddo.
12—14. Codi cwpan iechydwriaeth ydyw offrymu diod-offrwm i’r Arglwydd am Ei waredigaethau, a hynny ar goedd ac nid yn gudd.
15—16. Nid peth dibwys yng ngolwg yr Arglwydd ydyw marwolaeth Ei ‘saint’, sef ei bobl ffyddlon ac annwyl, y mae’r ddeubeth yn y gair. Y mae’n werthfawr ac ni chaiff ddigwydd iddynt ar chwarae bach. Onid hir ddyddiau oedd un o fendithion mawr ffyddlondeb i Iehofa yn nhyb yr Iddew?
Pynciau i’w Trafod:1. A oes gennych chwi brofiad o waredigaeth fawr fel sydd gan y Salmydd hwn?
2. A oes gwerth mewn addunedu? A ydych yn cymeradwyo arferiad y Catholigion yn addunedu cyflawni rhyw wasanaeth neu gyflwyno rhyw rodd i’w heglwys o gael rhyw fendith arbennig?
A ydych chwi wedi cadw eich addunedau?
3. A ydyw marwolaeth y saint o bwys i Dduw? A ydyw hir-ddyddiau yn arwydd o ffafr Duw?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.