Salmau 48 - Welsh Selection of Psalms by Lewis Valentine 1936

SALM XLVIIIDINAS Y BRENIN MAWR.Salmgan y Corachiaid.

1Mawr yw Iehofa, a rhodder pob moliant iddo yn ninas ein Duw.

2Teg ei uchdwr yw Ei Fynydd Santaidd, llawenydd yr holl ddaear;

Mynydd Sion ar lethrau’r gogledd yw dinas y Brenin Mawr.

3Yn ei thyrau hi dangosodd Duw ei hun yn uchel dŵr.

4Wele cyfarfu’r brenhinoedd trwy gytundeb; a thros y ffiniau â hwynt fel un gŵr;

5Un olwg oedd ddigon iddynt, — aethant yn fud, a ffoi mewn braw mawr.

6Gafaelodd dychryn am danynt yno fel gwewyr mewn gwraig wrth esgor.

7Drylliaist hwynt yn ddarnau fel gwynt y Dwyrain yn dryllio llongau mawrion.

8A’r pethau a glywsom a welsom ninnau yn Ninas Iehofa y Lluoedd, yn Ninas ein Duw ni.

Duw a’i diogela fyth!

9O Dduw, cofiwn am Dy gariad yng nghanol Dy deml.

10Y mae Dy fawl fel Dy enw, yn cyrraedd i ben draw’r ddaear.

11Llawn o gyfiawnder yw Dy ddeheulaw; Llawenyched mynydd Sion,

A gorfoledded ei threfi am Dy farnedigaethau.

12— Cerddwch o gwmpas Sion ac ewch o’i hamgylch hi, rhifwch ei thyrau,

13Creffwch ar ei rhagfuriau, syllwch ar ei cheyrydd;

14Fel y galloch adrodd i’r oes a ddêl pa fath Dduw

Yw ein Duw ni. Ef a’n harwain byth mwy.

salm xlviii

Gwaredigaeth Ieriwsalem rhag Senacherib a’i luoedd yn 701 C.C. yw achlysur canu y Salm brydferth hon hefyd (gwêl Salm 46). Ond bernir gan rai mai cân pererin o fro bell yw hi, a mynega yma serch ei galon at yr hen ddinas enwog. Defnyddir hi yn yr eglwysi ar y Sulgwyn oherwydd credid gynt fod ynddi ddarlun o’r Eglwys a gafodd ei sefydlu ar y Pentecost.

Nodiadau

1, 2, 3: Mawr yw awdurdod Iehofa yn y ddinas, a haedda pob moliant. Ar fynydd Sion y safai’r deml, ar y rhan i’r gogledd-ddwyrain. Nid yw’r awdur yn ei chymharu hi â mynydd Olympws. Cyn deced yw Ieriwsalem iddo ef ag Athen i’r Groegiaid neu Rufain i’r Rhufeiniwr, ond ei bri mwyaf yw y gweithredoedd nerthol a rhyfeddol a wnaeth Iehofa ynddi.

4—8. Disgrifiad byw a dramatig o’r adwyth a ddaeth i luoedd Senacherib (gwêl 2 Br. 19). Dychrynwyd hwynt gan gadernid ceyrydd y ddinas. Yn adn. 7 “llongau Tarsis” sydd yn y testun, a’r meddwl yw ‘llongau yn ddigon mawr i fordwyo hyd Tartessus yn Hispaen’.

9, 10, 11. Y mae profiad y presennol yn cadarnhau holl hanes rhyfedd Iehofa. Cawsant weld gwaredigaethau oedd mor rhyfeddol â dim a ddigwyddodd yn eu hanes hir. Gellir cyfieithu ‘cyfiawnder’ yn ‘fuddugoliaeth’ yn adn. 11.

12, 13, 14. Nid oes amau ar y waredigaeth a gafwyd; gellir distewi pob amheuaeth drwy gymryd tro o amgylch yr hen ddinas a gweld ei muriau a’i thyrau cyfain, ni fennodd y gelyn ddim arnynt.

Darn o deitl y Salm sy’n dilyn ydyw gair a gyfieithir ‘hyd angau’. Yr un gair ydyw a’r hwn a gyfieithir ‘I leisiau bechgyn’ yn Salm 46.

Pynciau i’w Trafod:

1. Credodd yr Iddew fod Duw yn ei ddatguddio ei hun yn hanes y genedl. A ydyw Duw yn ei ddatguddio ei hun yn hanes Cymru? Rhowch enghraifft.

2. Ai yn y gorffennol y rhoddes Duw y datguddiadau grymusaf ohono Ei hun? A allwn ninnau heddiw ategu tystiolaeth adnod 8?

3. I’r sawl sy’n dilorni yr Eglwys heddiw a oes gennym ni apêl fawr at brofiad a ffeithiau fel oedd gan y Salmydd hwn? (Adnod 12).

4. I ba raddau y gelìlir ‘dysgu’ crefydd i’r plant? A ydyw crefyddwyr Cymru heddiw mor ddiwyd â chynt yn hyn o waith?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help