Salmau 23 - Welsh Selection of Psalms by Lewis Valentine 1936

SALM XXIIISalm Dafydd. I. Iehofa’r Bugail.

1Iehofa sydd yn fy mugeilio: nid oes angen dim arnaf.

2Gwna i mi orwedd mewn dolydd glaswelltog;

Tywys fi at ddyfroedd gorffwys.

Y mae’n adnewyddu fy enaid.

II. Iehofa’r Arweinydd.

3Y mae’n fy arwain ar hyd llwybrau union, er mwyn

Ei enw.

4A phe rhodiwn ar hyd geunant tywyll, du,

Nid ofnaf ddim niwed; canys yr wyt Ti gyda mi.

Dy bastwn a’th ffon Di yw fy nghysur.

III. Iehofa’r Gwestywr.

5Yr wyt yn taenu bwrdd llawn o’m blaen,

Yng ngŵydd fy ngwrthwynebwyr;

Iraist fy mhen ag olew,

Fy nghwpan sy’n llifo trosodd.

6Yn ddiau y mae daioni a chariad

Yn erlid ar fy ôl holl ddyddiau fy mywyd,

A phreswyliaf yn nhŷ Iehofa

Trwy gydol fy oes.

salm xxiii

Y GÂN grefyddol fwyaf poblogaidd yn mynegi amddiffyn sicr Iehofa. Ofer ydyw ceisio mesur a phwyso ei gafael hi ar fywydau dynion erioed. Cytunir bellach nad ‘Y Bugail’ ydyw’r unig ddarlun o Dduw sydd yma, ond darlunnir Ef hefyd fel Arweinydd a ddug ei gydymaith i ddiogelwch drwy geunentydd enbyd a thywyll. Yn y pennill olaf Duw ydyw’r Gwestywr Mawr a’r Gwestywr perffaith nad oes terfyn ar ei groeso.

Nodiadau

1. Am ddefnyddio’r ffigur hwn gwêl, Gen. 48:15, 49:24; Mic. 7:14; Es. 49:9-10; Salm 80:2. Hefyd yn y T.N. Luc 15:3-7 a Ioan 10:1-16.

2. ‘Dyfroedd gorffwys’ — y pydewau a’r ffynhonnau y dyfrheir y diadelloedd ohonynt.

3. Newidir y ffigur yn yr adnod hon, Iehofa ydyw’r Arweinydd sy’n arwain y teithiwr ar hyd lwybrau diwyro.

‘Er mwyn Ei enw’, — er mwyn Ei gymeriad a’i anrhydedd. Mater o anrhydedd i Dduw ydyw rhoddi arweiniad diogel.

4. ‘Y ceunant tywyll du’, neu yn ôl yr hen gyfieithiad, ‘Glyn cysgod Angau’ sydd mor anodd canu’n iach ag ef, gan mor ddwfn y gwewyd yr ymadrodd i brofiad y saint a’r mynegiant ohono. “Tywyllwch neu gaddug” ydyw ystyr yr ymadrodd a gyfieithir yn ‘Gysgod Angau’. Disgrifiad byw o fynydd-dir Iwdea, sydd yn frith o geunentydd cadduglyd a’u mynych ogofau sy’n lloches lladron ac anifeiliaid gwylltion.

‘Dy bastwn a’th ffon’, — nid y bugeilffon, ond y pastwn a garia’r Arweinydd fel arf amddiffyn, a’r ffon sydd ganddo i bwyso arni a hybu ei gerddediad.

5. Yma newid y ffigur drachefn i Iehofa fel Gwestywr. Ni all gelynion y Salmydd beri dim niwed iddo. Yn ôl defodau’r Dwyrain y mae nawdd y gwestywr drosto, ac yn ôl defod y Dwyrain eto eneinir y gwestai ag olew perarogleuol, a digrintach ydyw’r cwpan gwin croeso a roir iddo. Nid oes grintachrwydd ar fwrdd brenhinol Iehofa.

6. Nid gwestai unnos ydyw gwestai yr Arglwydd, ond gwestai a drig fyth yn ei Deml, a chariad a daioni yn glynu wrtho yn gyndyn i weinyddu arno ym mhob dymuniad.

Pynciau i’w Trafod:

1. Ceisiwch roddi cyfrif am afael y Salm hon ar galonnau dynion erioed.

2. Pa un o’r tri darlun ydyw’r hyfrytaf gennych, — Duw fel Bugail, Duw fel Arweinydd, a Duw fel Gwestywr? Pa un sydd fwyaf gwir yn eich profiad personol chwi?

3. Ystyriwch syniad beiddgar yr adnod olaf, sef y syniad o Dduw yn ERLID dyn fel y mae gelyn yn erlid, ond â daioni a chariad.

Cymherwch hyn â chân fawr Francis Thompson, “Bytheiad y Nef”.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help