Salmau 8 - Welsh Selection of Psalms by Lewis Valentine 1936

SALM VIIIEMYN HWYROL.O Lyfr Canu’r Pencerdd. I’w chanu ar yr alaw ‘Cafn y Gwin’.Salm Dafydd.

1 O Iehofa ein Harglwydd,

Mor ardderchog yw Dy enw drwy’r holl ddaear!

2Canu a fynnwn am D’ogoniant uwch y nefoedd,

Megis â genau plant bach a babanod.

Sylfaenaist amddiffynfa o achos D’elynion,

I ostegu’r gelyn a’r dialgar.

3Pan syllwyf ar Dy nefoedd, gwaith Dy fysedd,

Y lloer a’r sêr a luniaist,

4Gofynnaf, “Beth yw dyn brau i ti i’w gofio,

Neu druan o ddyn i ti ofalu am dano?”

5Pan wnaethost ef ychydig is na Duw,

A’i goroni â gogoniant ac anrhydedd,

6A’i wneud yn arglwydd ar weithredoedd Dy ddwylo,

Gosodaist bopeth dan ei draed.

7Defaid ac ychen, y cwbl ynghyd;

A hyd yn oed anifeiliaid gwylltion;

8Adar y nefoedd a physgod y môr,

A pha beth bynnag sydd â’i lwybr yn y moroedd.

O Iehofa ein Harglwydd,

Mor ardderchog yw Dy enw drwy’r holl ddaear!

salm viii

Emyn hwyrol yw’r Salm hon a gyfansoddwyd ar gyfer addoliad cyhoeddus, ac ni chyfeiria at ddigwyddiad personol na hanesyddol. Lliwir meddwl yr awdur gan Gen. 1:26-28 a Gen. 2:7-19. Gwybu felly am y Pentateuch fel y mae gennym ni heddiw. Ni chrynhowyd hwnnw hyd ar ôl dyddiau Esra, a phrin felly y gellir amddiffyn y syniad mai Dafydd a ganodd y Salm.

Nodiadau

1. Bu raid newid ac aildrefnu’r testun, canys y mae’r gwreiddiol yn anodd. Wrth ‘enw’ yr Arglwydd yma y golygir popeth a ddatguddiodd Ef ohono’i hun mewn creadigaeth. Y mae bron yn gyfystyr â ‘chymeriad’.

2. Dyma’r cynnig gorau i gyfieithu’r adnod hon. Pwysleisio a wna eiddilwch ei fawl yn wyneb mawredd anhraethadwy gogoniant Duw, ond mawl dyn, er eiddiled ydyw, sydd amddiffynfa a ostega ac a gywilyddia elynion Duw. Onid hyn yw’r ystyr, yna cyfeiriad sydd yma at Dduw y goleuni, sef Iehofa, yn chwalu galluoedd y caddug.

4. Nid oes i ‘fab dyn’ yr ystyr sydd iddo yn y T.N. Ei ystyr yma ydyw ‘dyn marwol’.

5. ‘Gwnaethost ef ychydig is na Duw’. Cyfeiriad pendant at Gen. 1:26, 27, bodau dwyfol, goruwch-ddynol a olygir, gan gynnwys angylion a Duw.

Pynciau i’w Trafod:

1. Yng ngoleuni’r Salm hon ystyriwch ddywediad mawr yr athronydd Kant; “Y mae dau beth yn llanw’r meddwl a rhyfeddod ac ofn parchedig, y nefoedd serennog uwch ben, ar ddeddf foesol oddi mewn.”

2. Yn wyneb datguddiadau gwyddonwyr heddiw a ellir cyfreithloni y lle canolog a ddyry’r Salm hon i ddyn?

3. Ystyriwch y defnydd a wna Heb. 2:6-8 o’r Salm hon. Yno yn y dyfodol y mae dyn i sylweddoli ei arglwyddiaeth ar y byd a ddaw.

4. Trafodwch y Salm yng ngoleuni’r adnod, “Canys daeth Mab y dyn i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid”.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help