Salmau 2 - Welsh Selection of Psalms by Lewis Valentine 1936

SALM IICÂN ENEINIOG YR ARGLWYDD. I. Cyffro y ddaear.

1Beth yw ystyr cytundebau’r cenhedloedd,

Ac ofer gynllunio’r bobloedd?

2Brenhinoedd daear sy’n ymfyddino,

A phenaethiaid yn cydymgynghori yn erbyn Iehofa

A’i etholedig frenin.

3Eu cri yw, “Drylliwn eu rhwymau, ymaith â’u rheffynnau”.

II. Hyder y Nef.

4Chwardd Brenin y Nef, fy Arglwydd a’u gwatwar.

5Yna llefara yn ei ddig wrthynt,

A dychryna hwynt â’i gynddaredd:

6“Myfi fy hun a orseddais fy mrenin

Ar Sion fy mynydd santaidd.”

III. Awdurdod yr Etholedig Frenin.

7Mynegaf innau orchymyn Iehofa am danaf:

“Tydi yw fy mab, heddiw y cenhedlais di;

8Cenhedloedd fydd dy etifeddiaeth,

A therfynau’r ddaear dy feddiant.

9Drylli hwynt â theyrnwialen haearn,

A’u malurio fel llestri crochenydd.”

IV. Cyngor y Bardd.

10Yn awr, frenhinoedd, byddwch synhwyrol:

Llywodraethwyr daear, cymerwch rybudd.

11Gwasanaethwch Iehofa â pharchedig ofn,

A chrynwch rhagddo mewn arswyd.

12Telwch iddo wrogaeth, rhag iddo ddigio,

A dyfod diwedd arnoch,

Canys y peth lleiaf a ennyn Ei ddicter.

O mor hapus yw pawb a gaffo gysgod ynddo Ef.

salm ii

Salm amddifad arall, a gwaith ofer ydyw ceisio ei hamseru. Amryfal ydyw dyfaliadau esbonwyr, a phriodolwyd hi i bob cyfnod rhwng Dafydd ac Alecsander Iannaeus (104-78 c.c.).

Y mae’r Salm hon yn Feseianaidd (gwêl Rhagymadrodd), ac yn yr ystyr hon y dehonglwyd hi gan yr Iddewon.

Nodiadau

1—3. Y mae teyrnas y Meseia yn fyd-eang, ac ymestyn ei lywodraeth dros frenhinoedd daear, a chais hwythau ddymchwel ei awdurdod.

4—6. Cyferbynnir dwndwr y ddaear â thawelwch y nefoedd, ac oferedd geiriau’r cynllwynwyr â dychryn geiriau Iehofa.

7—9. Etholedig Iehofa, y Meseia ei hun sydd yn llefaru’r geiriau hyn, a diau fod proffwydoliaeth Nathan yn 2 Sam. 7. ym meddwl yr awdur.

10—12. Cyngor a rhybudd y Salmydd sydd yn yr adran hon. Y mae testun yr adnod olaf yn anodd iawn, a pheth bynnag a ddichon fod y darlleniad cywir, nid ‘cusenwch y Mab’ ydyw hwnnw. Bwriad y Salmydd oedd cyfleu rhyw syniad tebyg i’r cyfieithiad uchod.

Pynciau i’w Trafod:

1. I ba raddau y mae’r pennill cyntaf yn ddarlun o gyffro bywyd y cenhedloedd heddiw? Ai gwrthryfel yn erbyn Duw ydyw achos yr anhunedd?

2. A all Duw ymyrraeth yn uniongyrchol, fel yr awgryma’r ail bennill, i ddofi dig cenhedloedd gwrthryfelgar?

3. Gelwir yr Iddewon yn “genedl gobaith”. Yng ngoleuni’r trydydd pennill pa mor wir yw hyn?

4. Myfyriwch y cyfeiriadau mynych sydd yn y Testament Newydd at y Salm hon.

A ydyw Actau 4:25 yn braw mai Dafydd yw ei hawdur hi? Ym medydd a gweddnewid Crist dyfynnir hi (Mc. 1:11 a 9:2-8). Yn ôl Paul cyflawnwyd geiriau’r 7 adnod yn ei Atgyfodiad, ac yn Hebreaid 1:5 a Heb. 5:5 cymhwysir hwynt at y Crist gorseddedig. Gwelir hefyd Dat. 2:27; 12:5 a 19:15.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help