Psalmae 12 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 12.

1Achub ni ō Arglwydd cū,

cans darfu rhai trugarog:

Herwydd pallodd ffyddlonion

o blīth dŷn-feibion geuog.

2Doedant wāg-oferedd lūn

bōb ūn wrth ei gymydog,

A gwenhieith-gar wefus fant:

(lle’r ānt) a chalon ddyblog.

3Torred yr Arglwydd yn glau

holl wefusau gwenhieithus:

A’r tafod a ddoedo ’n hŷ

fawrhydry (rhy-falch eusus.)

4Y rhai ddoedant (warr-sŷth nōd)

a’n tafod y gorfyddwn:

Gallwn ddoedyd a fynnom,

pwy’n benn arnom a ofnwn?

5Am anrhaith cystuddus blaid,

ag vchenaid y tlodion,

Codaf mēdd duw: rhof yn rhŷdd

rhwn beunydd a faglason.

6Geiriau duw ŷnt eiriau pūr,

fel arian a gūr-goethid,

Mewn ffwrn bridd (dān-boeth-liw faith)

yn yr honn seith-waith pūrid.

7’R-eiddot Arglwydd cedwi hwynt

(rhag rhuthr-hynt dynion di-lwydd:)

Cedwi hwynt, (dragywydd faeth)

rhag honn-Genhedlaeth efrydd.

8Amgylch-ogylch (Satan-blant)

y rhodiant an-nuwolion:

Pann dderchefir (di-rās gād)

gwarthād fŷdd i faib-dynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help