Psalmae 4 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 4.

1GWrando fi pann alwyf dduw,

wir-dduw fynghyfiawnder:

Trugarhā, erglyw fyngweddi,

ehengaist fi ’nghyfyngder.

2O feibion dynion pa hŷd

i trowch fynghlŷd-ogoniant

Yn warthād! gorwēgi hōffwch,

argeisiwch gelwydd somiant!

3Gwybyddwch i’r Arglwydd ethol

y duwiol iddo ei hunan:

Pann alwyf ar fy nuw cū

ef a wrendu ’nghwynfan.

4Gwir-ofnwch, ag na phēchwch,

meddyliwch yn eych calon:

Ar eych gwely difarhewch,

distewch (fel rhai ufuddion.)

5Aberthwch i dduw ebyrth pēr

Cyfiawnder (gwiw-offrymiad)

A gobeithiwch (yn hy-lwydd)

yn yr Arglwydd hael-dād.

6Llaweroedd fy ’n ddoedyd, pwy

A ddengys mwy ddā i ni:

Arglwydd dercha arnom gyrch

lewyrch dy wyneb heini.

7Rhoist lawenydd im calon,

(cynnhesaist fy mronn ddū-rew)

Er pann amlhâdd ei hŷd,

ai gwin ei gŷd, ai holew.

8Mewn heddwch y gorweddaf,

a hūnaf yn ddi-ebwch:

Cans ti Arglwydd yn unig

a’m trig mewn diogelwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help