Psalmae 7 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 7.

1ARglwydd fy nuw clŷw fy llais

ymddiriedais ynot:

Rhag f’erlid-wyr oll ar llēd

gwared fi ŵyf eiddot.

2Rhag iddo larpio fy enaid

yn safnaid, fal llēw rheibudd:

Gann ei scythru ai rwygo

pryd na byddo gwaredudd.

3F’arglwydd dduw y rwy ’n erfyn

os gwneuthym hynn nai dybiaw:

Od oes hefyd (niwed wēdd)

anwiredd yn fy nwylaw.

4O thelais ddrŵg ir nēb oedd

mewn hēddoedd a mi ’n aros:

Oni waredais rhai a’m

gwrthnebent gam heb achos.

5Gelyn f’enaid iddo bīd

f’erlid a’m goddiwedd:

Sathred fy mywyd i’r llawr,

i’r llwch-lawr fyng-ogonedd.

6Cyfod i’th ddīg ō Arglwydd

o herwydd llīd gelynion:

ym-dderch, deffro droso ’n ffēst

i’r farn orchmynnest inion.

7Felly oll gynlleidfaoedd

y bobloedd ath amgylchant:

Dychwel dithe er ei mwyn

ith fwyn uchelder feddiant.

8’R-Arglwydd a farn bobl rī

barn fi yn fyng-hyfiawnder:

Ag yn ōl (lle deli gōf)

sydd ynof o berffeithder.

Yr Ail Rhann:

9DArfydded drŵg an-nuwion

Cyfiowonion cyfarwydda:

Duw cyfiawn y Calonnau

a’r arennau chwilia.

10Fy amddiffin oll y sŷdd

beunydd yn-nuw cyfiawn:

Cans ef yw iachawdur llonn

y rhai o galonn iniawn.

11Y gwir-dduw gogoneddus

sydd eustus farnudd cyfion:

A duw beunydd wrth (rai ffōl)

annuwiol, y sydd ddigllon.

12Oni ddychwel yn ei ōl

annuwiol, Clēdd a hōga:

(Yn dra-seliad) paratōdd

ag annelodd fŵa.

13Gwnaeth yn barod (ar ei stōl)

iddo angeuol arfau:

yn erbyn erlid-wyr (trōdd,)

ef a weithiodd saethau.

14Wele, ym-ddŵg anwiredd,

ar gamwedd y beichiogodd:

(Ag o’r diwedd oi fol-chwydd)

ar gelwydd yr escorodd.

15Cloddiodd gor-bwll, trychodd ffōs,

(i aros cael fy-mhriddaw:)

Syrthiodd ei hūn (nid oedd waeth)

i’r Distruw wnaeth ei ddwylaw.

16Ei anwiredd ar ei benn

a ymchwel (penn fo ’mheua:)

Ei gam-wedd ef (ai hoynyn)

a ddescyn ar ei goppa.

17Yn ōl ei gyfiawnder rhŵydd

yr Arglweydd a glōdforaf:

A chān-mōlaf enw llŵydd

yr Arglwydd goruchclaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help