Psalmae 11 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 11.

1Yn yr Arglwydd (a’m hōll grēd)

ŵyf yn ymddiried (ddi-gryn)

Pa ddoedwch wrth fy enaid prūdd

i’ch mynydd hēd fel ’deryn?

2Wele y drygionus blā

ei bwā annelasant

Tu a’r llinin (cadarn crau)

ei saethau paratoysant.

I seythu mewn dirgelion

y rhai o galon iniawn.

3Cans y seiliau ’n ddinistr aeth:

pa bēth a wnaeth y cyfiawn?

4Duw sy’n ei Sanct-Deml ddā,

Nēf yw gorseddfa ’r Arglwydd:

Gwēl ei lygaid dlawd (ai frāw:)

ei ’mrantau’n chwiliaw dŷn-wŷdd.

5Yr Arglwydd cyfiawn prāw:

ond cāsdrāw gann ei enaid

Y drygionus, a’r hwn fō

hōff ganddo yr an-wiriaid.

6Ar yr An-nuwolion gau

glawia faglau: tān yssōl,

Brwmstan, ag ystormus-wŷnt,

iddynt fydd rhann ei phīol.

7Cans yr Arglwydd cyfiawn gwār

fŷth a gār Gyfiawnder:

Ai wyneb-prŷd tirion iawn

a genfydd rhai iniawn-ber.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help