Psalmae 10 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 10.

1ARglwydd pam y sefi o bell?

o hir-bell yr ymguddi?

Yn yr amser pann ydym

mewn tra-llym gyfyngderi?

2Yr annuwiol mewn balch līd

a erlid y tlawd truan:

Dalier hwynt iw dichellion

(cyfrwysion) a ddychmygan.

3Cans yr An-nuw a ffrostiodd

wrth wyllys fodd ei galon:

A’r cybydd ym-fendithiodd:

di-styrodd fowr-dduw cyfion.

4Yr An-nuw gann ei falchder

ni chais hyder ar dduw mau:

Nid ydiw duw, (aeth ar goll)

yn ei holl feddyliau.

5Ei ffyrdd ef bōb awr sy flin,

vchel yw rhīn dy farnau

Di olwg ef: chwŷth yn dynn

yn erbyn ei elynnau.

6Doedodd yn ei galon chŵydd

ni’m smūdir (herwydd gwall-faeth:)

Cans ni byddaf mewn dryg-fyd

genhedl-fŷd a chenhedlaeth.

7Ei enau sy ’n llawn melltith,

a dichell chwīth, a thwylledd:

Tann ei dafod hefyd mae

camweddae ag anwiredd.

8Mae ef yn ei eisteddfa

yng-hynllwynfa heolydd:

Mewn cilfach llādd wirioniaid,

ar dlawd ei lygaid drem-fydd.

9Ef cynllwyn mewn dirgelau

fei llēw iw ffau, bwriadu

Bydd i dreisio dŷn go-dlawd:

trais dlawd, iw rwyd oi dynnu.

10Ef a ymgystuddia (dwng)

ag ymostwng (dwyll-fyrn)

Fal y cwympo tyrfa haid

trueniaid mysc ei gedyrn.

Yr Ail Rhann

11EF yn ei galon a ddoedodd

anghofiodd duw fy-nrygwaith:

Cuddiodd ei wyneb (dan i gēl)

bŷth ni wēl (dwrn diffaith.)

12Cyfod Arglwydd dduw, (na thāw)

dercha dy lāw (amddiffin:)

Na anghofia Arglwydd Iōn

dy bobl dlodion werin.

13Pa ham y ceiff yr An-nuw

gabla duw? gann ddoedyd

Yn ei galonn (waela fri)

nad ym-ofynni (fyth-fyd.)

14Gwelaist an-wiredd a cham

ath ddwylo tāl am gabledd:

Tlawd, ei obaith arnat gād,

i’mddifad ŵyt gymorthedd.

15Torr fraich yr annuw strywys

a’r drygionus enwir:

Cais drāw ei ddrygioni fe

nis cei (ei lē nai fro-dir.)

16Yr Arglwydd sydd frenin bŷth

ag oes-fŷth yn dragywydd:

Dinistriwyd cenhedloed (frēf)

oi ran-dir ef ai wlēdydd.

17Ti a glywaist Arglwydd dād

ddamuniad tlodion (waeled:)

Cweiria di ei calon hwynt,

dy glūst arnynt gwrandawed.

18I farnu’r ymddifad, a’r

tlawd hīr-alar bellach:

Fel na phāro dŷn ar ōl

dayarol, mor ofn mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help