Psalmae 3 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 3.

1ARglwydd amled ydyw ’r gwŷr

y sydd drallodwyr imi:

Llawer o gaseion tynn

im herbyn sydd yn cōdi.

2Llawer doedant yn ddi-baid

am f’enaid eiriau rhy-gaeth:

Nid oes iddo yn ei dduw

un-rhyw iechydwriaeth.

3Tithe Arglwydd goreu-lan

ydwyt darian i mi:

Fy ngogoniant ŵyt am būdd,

fy-mhenn-dderchafudd wedi.

4Gelwais ar yr Arglwydd Nēf

am llēf o ddyfnder calon:

Ag ef a glybu ’nghystudd

oi sanctaidd fynydd tirion.

5Gann fy-mhwyll mi orweddais,

ag a gyscais iownfodd:

A deffroais, o herwydd

yr Arglwydd am cynnhaliodd.

6Nid ofnaf fyrdd niferoedd

o bobloedd am amgylchant:

Ag i’m herbyn o lawn frŷd

a gŷd-ymosodasant.

7Cyfod fy-Nuw, achub fi,

trewaist ri ’ngelynion

Ar garr yr ēn: torraist wēdd

ddannedd annuwolion.

8Oll yn eiddo ’r Arglwydd aeth

iechydwriaeth Dynion:

Ti a renni dy fendith

ymhlith dy bobl wirion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help