Psalmae 5 - Welsh Metrical Psalms by Edward Kyffin 1603

Psal. 5.

1Gwando Arglwydd, (ŵyf yn gwau)

fyng-eiriau attat uchod:

Agydolwg fy-nuw call

deall fy myfyrdod.

2Erglyw ar lēf fyng-waedd-drīn

fy-Mrenin dduw goruchaf:

ystyr wrth fyng-alar-nād,

cans arnad y gweddiaf.

3Yn foreuol Arglwydd nēf

clywi fy llēf ddifrifaf:

Yn fore cyfeiriaf attad

agam dy rād disgwiliaf.

4Oherwydd nad wyt ti dduw,

yn wyllysio rhŷw anwiredd:

y drŵg ni thrig gida thī,

ni fynni ef ith gydwedd.

5Ni safant ynfydion drŵg

yn dy olwg pur-wrdd:

Cāseist oll an-nuwiol wŷr,

gweithred-wyr pōb anwiredd.

6Difēthi rhai ōll a wnānt

ag a ddoedant gelwydd:

Yr Arglwydd ffieiddia fŷd

gŵr gwaedlyd a’r twyllod-rydd.

7Minne ddōf ith dūy fy nēr

yn amlder dy drugaredd:

Ag addolaf yn dy ofn

ith deml ddofn sancteidd-wedd.

8I’th gyfiawnder arwain fi,

o achos fi ’ngelynion:

Gwastadhā dy ffordd o’m blaen,

(er a wnaen ynfydion).

9Iniondeb iw safn nid aeth,

llygreidiaeth yw ei ceudod:

Ei gwddf fŷdd agored fēdd,

gweniaith mēdd ei tafod.

10Duw distrywia hwynt ai chwant.

syrthiant o’i cynghorion:

Yn amlder ei cammau tynn,

i’th erbyn gwrth-ryfelson.

11Dy-’mddiriedwyr llawenhānt,

cān-mōlant di ’n dragywydd:

Cār-wyr, d’enw orfoledd

ynot, ei hēdd ai gorchudd.

12Cans ti Arglwydd grasuslawn

y cyfiawn a fendithi:

A chredigrwydd cynhes-lān

fel tarian ef coroni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help