1-14Wedi 'na dangosodd Iesu i unan 'to i'r disgiblion wrth Lyn Tiberias. Fel hyn ddangosodd e i unan. We Simon Pedr, Tomos (un o'r Twins), Nathanael o Cana in Galilea, crwts Sebedeus a dou ddisgibil arall 'da'i gily. Gwedo Simon Pedr, “Dw i'n mynd i bisgota.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Ŷn ni'b dod 'da ti.” Ethon nhwy mas a mynd miwn i'r cwhc, a'r nosweth 'ny ddalon nhwy ddim byd. Fel wedd i'n gwawrio 'na lle we Iesu ar i lan, ond weno'r disgiblon in stando taw fe wedd e. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Bois, wes pisgod 'da chi, 'te?” Atebon nhwy, “Na wes.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Towlwch i rhwyd ar ochor dde'r cwch, a fe gewch chi rei.” So dowlon nhwy'r rhwydi, a wen nhwy'n ffaelu'u tinnu nhwy nôl miwn i'r cwch achos we gwmint o bisgod indo nhwy. Gwedo'r disgibl we Iesu in i garu wrth Pedr, “Ir Arglwidd yw e.” Pan gliwo Pedr taw'r Arglwidd wedd e, tinodd e i glogyn amdano, achos wedd e wedi'i dinnu e bant, a jwmpo miwn i'r dŵr; ond dâth i disgiblion erill in u cwch in drago'u rhwydi llawn pisgod, achos wenyn nhwy'n bell o'r tir, dim ond rhyw dou gant ciwbit. Pan ddethon nhwy i'r lan gwelon nhwy tân cols a pisgod arno, a bara. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dewch â rhei o'r pisgod ichi newy ddala.” Âth Simon Pedr nôl i'r cwch a drago'r rhwyd llawn pisgod mawr i'r tir. We hyndred an ffifi thrî onyn nhwy; ond er bo gwmint nâth i rhwyd ddim torri. Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dewch i gâl brecwast.” We ddim un o'r disgiblion in mentro gofyn iddo, “Pwy wit ti?” achos bo nhwy'n gwbod taw'r Arglwidd wedd e. Dâth Iesu, cwmrid i bara a'i roi fe iddyn nhwy, a nâth e'r un peth da'r pisgod. Co'r trididd gwaith i Iesu ddangos i unan i'r disgiblion wedi 'ddo godi o farw.
Iesu'n cwmrid Pedr nôl15-25Wedi iddyn nhwy gâl brecwast gwedo Iesu wrth Simon Pedr, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu i in fwy na'r pethe 'ma?” Gwedodd e wrtho, “Wdw, Arglwidd, wit ti'n gwbod bo fi'n di garu di.” Gwedodd e wrtho “Bwyda in ŵyn i.” Gwedodd e wrtho weth, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu?” Gwedodd e wrtho, “Wdw, Arglwidd, wit ti'n gwbod bo fi'n di garu di.” Gwedodd e wrtho, “Gofal am in ddefed i.” Gwedodd e wrtho shwrne 'to, “Simon, crwt Ioan, wit ti'n ing garu i?” We Pedr in gofidio achos i fod e wedi gofyn teirgwaith, “Wit ti'n ing garu i?”, a gwedodd e wrtho, “Arglwidd, wit ti'n gwbod popeth; wit ti'n gwbod bo fi in di garu di.” Gwedo Iesu wrtho, “Bwyda in ddefed i. Dw i'n gweud i gwir wrtho ti, pan wet ti'n ifancach, we ti'n clwmu di felt di unan rownd di ganol a'n mynd i ble binnag wet ti moyn; ond pan fyddi di'n hen, biddi di'n rhoi di ddwylo mas a bydd rhiwun arall in clwmu'r belt am di ganol a'n mynd â ti i ble wit ti ddim moyn mynd.” Wedodd e hyn i ddangos trw shwt farwoleth bidde Pedr in rhoi gogoniant i Dduw. Wedi 'ddo weud hyn gwedodd Iesu wrtho fe, “Dilyna fi.”
Troio Pedr rownd a gweld i disgibl we Iesu in i garu in dilyn. (Fe we'r un we wedi pligu nôl in i swper i holi, “Arlgwidd, pwy yw e sy'n rhoi ti lan?”) Pan welo Pedr e gwedodd e wrth Iesu, “Arglwidd, beth amdano fe?” Gwedo Iesu wrtho, “Os dw i am iddo fe aros nes bo fi'n dod, beth yw 'na i ti? Rhaid iti in ddilyn i.” So ddechreuodd i brodyr glebran rhynt i gily na fidde'r disgibl chwnnw'n marw. Ond nâth Iesu ddim gweud wrtho fe na fidde-fe'n marw, ond, “Os dw i am iddo fe aros nes bo fi'n dod, beth yw 'na i ti?”
Hwn yw'r disgibl sy'n gweud i pethe 'ma a'n gweud u bod nhwy'n wir fel man nhwy wedi câl u reito lawr fan 'yn, a ŷn ni'n gwbod bod i air e'n wir.
Nâth Iesu lot o bethe erill; sen nhwy'n câl u reito lawr un wrth un, sa i'n credu bidde'r byd i gyd in ddigon mowr i ddala'r llifre'n câl u reito.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.