Mathew 20 - The Four Gospels 2000 (Lyn Lewis Dafis) in Pembrokeshire Welsh

1-34“Ma Teyrnas Nefoedd in debyg i berchen tŷ sy'n codi'n fore i fynd mas i wilio rhei i weithio in i winlla. Mae e’m cituno 'da nhwy i dalu denarius am waith dwarnod, a'n u hala nhwy i'r winlla. ‘Bitu naw o'r gloch i bore ‘co fe'n mynd mas a gwel rhei erill in sefill rownd in neud dim byd ar sgwâr i mart; gwedodd e wrthyn nhwy, “Chi ‘fyd, cerwch i'r winllan, a fe dala i ichi beth sy'n iawn.” A fe ethon nhwy. Âth e mas 'to ‘bitu douddeg o'r gloch a bitu tri o'r gloch in prinhawn a neud ir un peth 'to. Obitu pump o'r gloch âth e mas a gweld rhei erill in sefyll ‘bitu'r lle. Gwedodd e wrthyn nhwy, “Pam ŷch chi'n sefyll fan’yn in neud dim byd trw'r dy?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Achos sneb wedi cinnig gwaith i ni.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Cerwch chi i'r winllan ‘fyd.” Pan ddachreuodd i nosi dâth perchennog i winllan at i manejer, “Galwa'r gweithwyr 'ma i gyd a tala nhw, dachreua 'da'r rhei ddath ddwetha a benna 'da'r rhei ddath ginta.” Câs i rhei ddachreuodd weitho ‘bitu pum o'r gloch ddenarius ir un. Pan ddath i rhei cinta, wen nhwy'n meddwl i cesen nhwy fwy o arian; ond denarius ir un gethon nhwy ‘fyd. Pan gethon nhwy ‘u harian dachreuon nhwy gintachu, “Dim ond am awr nnath i rhei ddath ddwetha weitho, a nes ti roi'r un peth iddyn nhwy â ni we wedi gweitho mas in i houl twym a wedi cario trw'r dy.” Atebodd e nhwy, “Gifell, sena i wedi bod in annheg 'da ti. Nethon ni gituno taw denarius fidde'r pai, on'dofe? Cer â beth sy i ti a cer o’ma. Dwi ishe rhoi i'r dyn dwetha 'ma ir un peth â ti. Sdim hawl 'da fi i neud fel dwi moyn 'da beth sy'n eiddo i fi? Wit ti'n jelos achos bo fi'n hael?” So bydd i dwetha in ginta, a'r cinta in ddwetha.”

Pan we Iesu in mynd lan i Jerwsalem, cwmrodd e'r douddeg disgibl i un ochor ar u penne u hunen, a ar ir hewl wedodd e wrthyn nhwy, “Grondwch, ŷn ni'n mynd lan i Jerwsalem, a bydd Crwt i Dyn in câl i roi lan i'r pen-ffeiradon a'r rhei sy'n disgu'r Gifreth. Biddan nhwy in i gondmo fe i farw, a'n i roi e i'r Cenhedlodd i gâl i neud sbort ar i ben e, i gâl i fflangellu a'i groeshoelo, a fe geith e i godi ar i tridydd dwarnod.”

Wedyn dâth mam meibion Sebedeus ato fe 'da i meibion i ofyn rhwbeth 'dag e. Gwedodd e wrhti, “Beth wit ti moyn?” Gwedodd i wrtho fe, “Rho ordors bod in ddou fab i in mynd i sihte, un ar di law dde a'r llall ar di with in di Deyrnas.” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Senoch chi'n diall beth ŷch chi'n gofyn. Allwch chi ifed o'r cwpan bidda i'n ifed ono o-fon hir?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Gallwn.” Gwedodd e wrthyn nhyw, “Biddwch chi'n ifed o'n gwpan i, ond ddim fi sy'n galler gweud pwy sy'n mynd i ishet ar in llaw dde a'n llaw with; ma'r llefydd 'ny i'r rhei ma'n Dad i wedi paratoi'r llefyd ar i cifer nhwy.”

Pan gliwo'r deg hyn, wen nhwy'n grac 'da'r ddou frawd. Ond galwodd Iesu arnyn nhyw a gweud, “Ŷch chi'n gwbod bo'r rhei sy'n rhedeg i cenhedlodd in i lordo hi drostyn nhwy, a ma'r dinion mowr ag awdurdod drostyn nhwy. Ddim fel 'na bydd pethe 'da chi; achos ma unrhyw un sy ishe bod in ddyn mowr 'da chi in gorfod bod in was, a mae unrhyw un sy ishe bod in ginta 'da chi in gorffod bod in geithwas ichi. In ir un ffordd, ddâth Crwt i Dyn ddim i gâl pobol in gwasnethu arnon fe, ond i wasaneuthr ar bobol erill, a i roi ei fowid in dâl dros lot o bobol.”

Fel wen nhwy'n gadel Jericho dâth crowd mowr ar i ôl e. Cliwo dou ddyn tewill, we'n ishte ar bwys ir hewl, bo Iesu in mynd heibo a dachreuon nhwy weiddi, “Mab Dafydd, ca dreuni arnon ni.” Safodd Iesu in llony, a galw arnyn nhwy a gweud, “Beth ŷch chi moyn i fi neud i chi?” Gwedon nhwy wrtho fe, “Syr, gad i'n lliged ni gâl u hagor.” Teimlodd Iesu lot o drueni drostyn nhwy a cwrddodd e a'u lliged nhwy. Wedyn gethon nhwy u golwg nôl a'i ddilyn e.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help