1-9In ginnar in bore dydd cinta'r wsnoth, pan wedd i'n dewill o hyd, dâth Mair o Magadal at i twm a gweld bo'r garreg wedi câl i simud bant. So redodd i at Simon Pedr a at i disgibl arall we Iesu in i garu, a gweu 'tho nhwy, “Man nhwy wedi mynd â'r Arglwidd mas o'r twm, a senon ni'n gwbod ble man nhwy wedi'i roi i orwe.” So âth Pedr a'r disgibl arall mas am i twm i weld. We'r ddou'n rhedeg 'da i gily; ond fe redodd i disgibl arall in gynt na Pedr a dod i'r twm ginta. Pligodd e'n ishel a gweld i llieinie in gorwe fan 'ny, ond âth e ddim miwn. Dâth Simon Pedr wedyn ar i ôl e, a âth e miwn i'r twm; a welodd e'r llieinie in gorwe fan 'ny, a we'r llien we wedi bod ar i ben e ddim in gorwe da'r llieinie erill, ond wedi'i bligu lan ar wahân. Wedyn âth i disgibl arall miwn, ir un we wedi dod ginta at i twm miwn, a gweld a credu; achos wenyn nhwy in diall ir Isgrithur 'to we'n gweud bo raid iddo fe god o farw. So âth i disgiblon getre 'to.
Iesu'n dangos i unan i Mair o Magdala10-18We Mair in sefyll tu fas wrth i twm, in llefen. Wrth iddi lefen pligodd i lawr in ishel i edrych in i twm, a welodd i ddou angel miwn gwyn, un in ishte lle we pen Iesu wedi bod in gorwe a'r llall in ishte wrth lle we'i drad e wedi bod. Gwedon nhwy wrthi, “Pam wit ti'n llefen?” Gwedodd i wrthyn nhwy, “Man nhwy wedi mynd a'n Arglwidd i bant, a sena i'n gwbod ble man nhwy wedi'i roi e i orwe.” Pan wedodd i 'na troiodd i rown a gweld Iesu in sefyll 'na, ond nabiddodd i ddim ono fe fel Iesu. Gwedo Iesu wrthi, “Pam wit ti'n llefen? Pwy wit ti'n ddrich amdano?” Meddiliodd i taw'r garddwr wedd e a wedodd i, “Syr, os ŷch chi wedi mynd bant ag e, gwedwch ble ŷch chi wedi'i roi e i orwe, a fe â i ag e bant.” Gwedo Iesu wrthi, “Mair!” Troiodd i a gweud wrtho in iaith ir Iddewon, “Rabbwni!” (neu, Mishtir). Gwedo Iesu wrthi, “Paid gafel inda i, achos sena i wedi mynd at i Tad 'to; ond cer at in frodyr i a gweu 'tho nhwy, ‘Dw i'n mynd at in Dad a at ich Tad, at in Dduw i a at ich Duw chi.’” Âth Mair o Magdala a gweu 'th i gdisgiblion. “Dw i wedi gweld ir Arglwidd”, a'i fod e wedi gweud i pethe 'na wrthi.
Iesu'n dangos i unan i'r disgiblion19-23Wedd i'n hwyr in prinawn ir un darnod, dwarnod cinta'r wsnoth, a we'r drwse lle we'r disgiblion wedi cau'n dynn achos we ofon ir Iddewon arnyn nhwy. Dâth Iesu a sefyll in u canol nhwy, a gweu 'tho nhwy, “Heddwch i chi.” Wedi 'ddo weud 'na dangosodd e i ddwylo a'i ochor iddyn nhwy. We'r disgiblion wrth u bodde pan welon nhwy'r Arglwidd. Gwedo Iesu wrthyn nhwy shwrne 'to, “Heddwch i chi. Fel ma'r Tad wedi'n hala i, dw i'n ich hala chi.” Wedi 'ddo weud 'na anadlodd e arnyn nhwy a gweu 'tho nhwy, “Derbiniwch ir Isbryd Glân. Os newch chi fadde pechode unrhyw un, wedyn gewn nhwy'u madde; os gadwch chi bechod unrhiw un, wedyn gawn nhwy'u cadw.”
Iesu'n dangos i unan i Tomos24-31Weno Tomos (un o'r Twins), un o'r Douddeg, ddim 'da nhwy pan ddâth Iesu. Gwedo'r disgiblion erill wrtho fe, “Ŷn ni wedi gweld ir Arglwidd.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Os na na i weld marcs ir hoelon in i ddwylo, a rhoin fys in lle'r hoelon, a rhoi'n llaw in i ochor e, na i byth gredu.”
Wyth dwarnod in ddiweddarach wen nhwy gida gily 'to, a we Tomos gidan nhwy. We'r drwse ar gau, ond dâth Iesu a sefyll in u canol nhwy a gweud, “Heddwch i chi.” Wedyn wedodd e wrth Tomos, “Dere â di fys 'ma a dricha ar in ffwylo i; dere â di law 'ma a'i rhoi 'ddi in in ochor i; paid bod in ddyn sy ddim in credu, ond in ddyn sy'n credu.” Atebo Tomos, “In Arglwidd a'n Dduw i.” Gwedo Iesu wrtho fe, “Wit ti wedi credu achos bo ti wedi'n weld i? 'Na hapus yw'r rhei sy ddim wedi gweld ond sy wedi credu.”
Nâth Iesu lot o bethe erill pan wedd e 'da'r disgiblion sy ddim wedi'i reito lawr in i llifyr 'ma; ond ma rhein wedi câl i reito lawr fel bo chi'n credu taw Iesu yw'r Meseia, Crwt Duw, a achos bo chi'n credu, câl bowid am byth in i enw fe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.