Mathew 25 - The Four Gospels 2000 (Lyn Lewis Dafis) in Pembrokeshire Welsh

1-46“A'r amser 'ny bydd Teyrnas Nefodd in debyg i ddeg morwm briodas, sy'n cwmryd u lampe a mynd mas i gwrdd â'r priodfab. We pump o nhwy'n dwp, a pump in gall; achos we'r rhei twp wedi dwâd â'u lampe ond heb ddim oel; ond we'r rhei call wedi dwâd â oel 'da nhwy gida'u lampe. Achos bo'r priodfab in slow in dwâd dachreuon nhwy i gyd hepia a cisgu. Ganol nos we gwaedd, ‘Drichwch, co'r priodfab! Cerwch mas i gwrdd ag e.’ Wedi cododd i morinion priodas i gyd a cinnu'u lampe. Gwedo'r rhei twp wrth i rhei call, ‘Rhowch peth o’ch oel chi i ni, achos ma'n lampe ni bitu ddiffod.’ Ond atebo'r rhei call, ‘Sdim dal a wes digon i chi a ni. Gwell ichi fynd mas i'r shop i bernu peth ich chi’ch hunen.’ Fel wen nhwy ar i ffordd i bernu oel, dâth i priodfab, a âth i rhei we'n barod miwn 'dag e i'r weldd briodas, a gaunon nhwy'r drws glep. Nes mlân, dath i morinion priodas we ddim wedi mynd miw, a gweud, ‘Syr, Syr, agorwch i ni ‘fyd.’ Ond atebodd e, ‘Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, sena i in ich nabod chi.’ Watswch wedyn 'te, achos senoch chi'n gwbod i dwarnod na'r awr.

“Mae'n gowir fel bise dyn in mynd dros i môr ing galw i geithion ato, a'n gofyn iddyn nhwy ofalu ar ôl i eiddo fe; i un oiodd e bump talent, i un arall dwy, a i un arall un, fel wen nhwy'n galler neud, a fe âth e bant dros i dŵr. Nâth ir un we wedi câl oum talent fynd ati ar unweth i ddachre busnes da'r talente a enillodd e bump arall. Run ffordd nâth ir un we wedi câl dwy dalent ennill dwy arall. Ond nâth ir un we dim ond wedi câl un dalent fynd a torri twll in i ddeair a cwato arian i fishtir. Wedi amser hir dâth mishtir i ceithion 'ny gatre a setlo pethe gida nhwy. Dâth ir un we wedi câl pump talent â pum talent arall, a gweud, ‘Syr, nes ti drysto fi i ofalu ar ôl pump talent. Dricha, dwi wedi ennill pump talent arall.’ Gwedodd i fishtir wrtho, ‘Da iawn, wit ti wedi neud in dda iawn, wit ti'n geithwas da galla i i drysto! Ces ti di drysto 'da bach o bethe; dwi mynd i di roi di dros lot. Dere a sharia in llawenydd di fishtir.’ Dâth ir un we wedi câl dwy dalent ‘fyd, a gweud, ‘Syr, nes ti drysto fi i ofalu ar ôl dwy dalent. Dricha, dwi wedi ennill dwy dalent arall.’ Gwedodd i fishtir wrtho, ‘Da iawn, wit ti wedi neud in dda iawn, wit ti'n geithwas da galla i i drysto! Ces ti di drysto 'da bach o bethe; dwi mynd i di roi di dros lot. Dere a sharia in llawenydd di fishtir.’ Ond fe ddâth ir un we dim ond wedi câl un dalent a gweud, ‘Syr, wen i in di nabod di: wit ti'n ddyn caled, wit ti'n cwen lle wenot ti wedi hou, a wit ti'n casglu lle wit ti ddim wedi gwasgar. We ofon arna i, so es i a cwato di dalent di in i ddeiar. Dricha, ‘co beth sy berchen i ti.’ Gwedodd i fishtir wrtho fe, ‘Ceithwas drwg a joglyd wyt ti! Wet ti'n gwbod, ond wet ti, bo fi'n cwen lle wena i wedi hou, a'n casglu lle wena i wedi gwasgar? Ddilet ti wedyn 'te fod wedi rhoi'r arian i ddinion i banc ddrich ar i ôl e; a pan fisen i wedi dwâd nôl bisen i wedi câl beth we'n eiddo fi nôl gida llog. Cerwch â'r dalent wrtho fe a'i rhoi ddi i'r un sy â deg talent 'dag e; achos i bob un sy â rhwbeth, ceith mwy i roi, a bydd digonedd 'dag e; ond wrtho fe sy â dim 'dag e, geith hyd-nôd beth sy 'dag i gwmrid wrtho fe. Towlwch i ceithwas diwerth i'r tewillwch tu fas; bydd wben a crenshan dane fan'ny.’

“Pan ddeith Crwt i Dyn in i ogoniant a'r angilion i gyd gidag e, wedyn bydd e'n ishte ar i orsedd ogoneddus; a bydd i cenhedlodd i gyd in dwâd o'i flân e, a bydd e'n gwahanu nhwy wrth i gily, fel ma bugel in gwahanu'r defed wrth i gafrod, a bydd e'n rhoi i defed ar i law dde, a'r gafrod ar i law whith. Wedyn bydd i Brenin in gweud wrth i rhei ar i dde, ‘Dewch, chi sy'n câl bendith i Tad, chi sy pia'r Deyrnas sy wedi câl i pharatoi ar ich cownt chi cyn bo'r byd wedi câl i greu; achos wen i'n llwgu a roies ti fwyi fi; we siched arna i a roiest ti rwbeth i ifed; wen i'n ddierth a gwmres ti fi miwn; wen i'n borcyn, a wisheges ti fi; wen i'n sâl a des ti ing ngweld i; wen in i jâl, a des ti ata i.’ Wedi neith i rhei cifion i ateb e, ‘Mishtir pryd welon ni ti in llwgu a rhoi bwyd i ti, neu'n sichedig a rhoi rhwbeth iti ifed.? Pryd welon ni ti'n dierth a’th gwmrid i miwn, neu'n borcyn a rhoi dillad iti? Pryd welon ni ti'n sâl, neu miwn jâl, a dwâd i di weld di?’ Bydd i Brenin in u hateb nhwy a gweud, ‘Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, ma unrhyw beth nethoch chi dros un o'r rhei lleia hyn sy'n frodyr i mi, in rhwbeth nethoch chi i fi.’ Wedyn neith e weud ‘fyd wrth i rhei ar i law with e, ‘Cerwch wrtha i, chi sy wedi’ch condemo, miwn i'r tân tragwyddol sy wedi câl i baratoi ar gownt i diawl a'i angilion; achos wen i'n llwgu a netho chi ddim rhoi bwyd i fi; wen siched arna i, ond nethoch chi ddim rhoi ddim byd i fi ifed; wen i'n ddierth a nethoch chi ddim in gwmrid i miwn; wen i'n borcyn on nethoch chi ddim rhoid dillad i fi, in sâl a in jâl a nethoch chi ddim dwâd in weld i.’ Wedyn newn nhwy ateb, ‘Mishtir, pryd welon ni ti'n llwgu, neu â siched arnot ti, neu'n ddierth, neu'n borcyn, neu'n sâl, neu in jâl a neud dim byd amdano fr?” Wedyn neith e ateb, ‘Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, os ffeiloch chi neud e i unryw un o'r dinion ishel, ffeiloch chi neud e i fi.’ Biddan nhwy'n mynd i gosb am byth, ond bydd i cifion in mynd i fowid am byth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help