Ioan 16 - The Four Gospels 2000 (Lyn Lewis Dafis) in Pembrokeshire Welsh

1-4“Dw i wedi gweud i pethe hyn wrthoch chi i'ch safio chi gwmpo bant. Bydd dinion in stopo chi fynd miwn i'r sinagog. I weud i gwir, ma'r amser in dwâd pan fydd rhiwun sy'n ich lladd chi in meddwl u bo nhw wedi neud i peth iawn, u diletswydd. Newn nhwy hyn achos senyn nhwy wedi nabod i Tad na fi. Ond dw i wedi gweud i pethe 'ma fel, pan ddaw'r amser iddyn nhwy ddigwydd, biddwch chi'n cofio bo fi wedi rhoi rhibudd ichi'n barod amdanyn nhwy. Nes i ddim gweud i pethe ma wrthoch chi in dachre'n deg, achos pre 'ny wen i 'da chi.

Beth fydd ir Isbryd Glân in neud

5-16Ond nawr dw i'n mynd at i sawl nâth in hala i, a sdim un o chi'n holi fi, 'Ble wit ti'n mynd?'; ond achos bo fi wedi gweud i peth 'ma, ma'ch calone'n llawn galgar. On wedyn weth gweud i gwir wdw i: er ich lles chi dw i'n mynd bant, achos os na â i bant, deith ir Helpwr ddim atoch chi; ond os â i, bidda i'n i hala fe atoch chi. Pan ddeith e bydd e'n dangos i'r byd beth yw istyr pechod, cifiawnder a band, a'n profi shwt mor euog yw dinion. Bydd e'n dangos i bod hi'n bechod peido credu inda i. Bydd e'n profi ing gifawnder i achos bo fi'n mynd nôl at i Tad fel bo chi ddim in ing ngweld i mwy. Bydd e'n profi bo barn wedi dod achos bydd i'r un sy'n rhedeg i byd 'ma in câl wedi'i farnu'n barod. Ma lot da fi weu 'tho chi 'tp, ond gallech chi ddim i odde fe nawr; ond pan ddeith e, Isbryd i gwirionedd, bydd e in ich hebrwng chi miwn i'r gwirionedd i gyd; achos ddim o'i gomands i unan fydd e'n sharad, ond bydd e'n gweud beth fydd e'n i gliwed, a bydd e'n gweu 'tho chi am bethe sy ddod. Bydd e'n rhoi gogoniant i fi achos bydd beth bydd e'n gweu 'tho chi in dwâd wrth beth sy pia fi. Ma bob peth sy 'da'r Tad in pia fi; 'na pam wedes i bydd beth bydd e'n gweu 'tho chi in dwâd wrth beth sy pia fi.

O fon hir newch chi ddim ing ngweld i 'to; a wedyn miwn tamed bach weth biddwch chi in ing ngweld i.

Tristwch i disgiblion in troi in llawenydd

17-33Gwedo rhei o'i ddisgiblion e wrth i gily, “Beth mae e'n goligu wrth weud, 'O fon hir newch chi ddim ing ngweld i 'to; a wedyn miwn tamed bach weth biddwch chi in ing ngweld i'? a 'Achos bo fi'n mynd at i Tad'?” So wedon nhwy, “Beth mae e'n meddwl wrth wedu 'o fon hir'? Senon ni'n gwbod beth mae e'n sharad amdano.” We Iesu in gwbod u bod nhw am i gwestjwno fe, a wedodd e wrthyn nhwy, “Beth ŷch chi'n holi i'ch hunen? Ody e am beth dwi wedi'i weud, 'O fon hir newch chi ddim ing ngweld i 'to; a wedyn miwn tamed bach weth biddwch chi in ing ngweld i'? Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, biddwch chi'n galaru ac in mwrno, ond bydd i byd wrth i fodd; biddwch chi'n drist, ond bydd ich tristwch chi'n troi in llawenydd. Pan ma menyw in geni babi ma i miwn pwen ofnadw achos bo'i thymp i wedi dod; ond wedi i'r babi gâl i eni, seni wedyn in cofio'r bwen achos i llawenydd bo babi newy wedi dwâd miwn i'r byd. Ma'n rhaid ichi fod in drist nawr; ond wela i chi weth, a bydd ich calon in llawen, a fydd neb in galler mynd â'ch llawenydd bant wrthoch chi. A'r dwarnod 'ny fiddwch chi ddim in holi unrhiw gwestjwne i fi. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, os gofinnwch chi unrhiw beth i'r Tad in in enw i bydd e'n i roi e ichi. Hyd nawr senoch chi wedi holi am ddim byd in in enw i; gofinnwch a fe gewch chi, fel bo'ch llawenydd chi'n gifan.

“Gwedes i'r pethe hyn wrthoch chi mewn ffordd dewill. Ma'r amser in dwâd pa fydda i ddim in sharad â chi fel 'ny, ond bidda i'n sharad 'da chi'n blaen am i Tad. A'r dwarnod 'ny biddwch chi'n holi in in enw i, a sena i'n gweud wrthoch chi bidda i'n holi'r Tad drosto chi; achos ma'r Tad i unan in ich caru chi, achos ich bo chi wedi'ng ngaru i a credu bo fi'n dod wrth Dduw. Des i wrth i Tad, a dw i wedi dod miwn i'r byd; ond dw i'n gadel i byd 'to a'n mynd at in Dad.” Gwedodd i ddisgiblion, “A, nawr wit ti'n sharad in blaen, a ddim miwn ffordd dewill. Ŷn ni'n gwbod nawr bod ti'n gwbod pob peth, a sdim ishe i neb holi ddim byd i ti; 'na shwt ŷn ni'n gwbod bo ti wedi dwâd wrth Dduw.” Atebo Iesu nhwy, “Odych chi'n credu nawr? Drichwch, ma'r amser in dwâd — mae e ma in barod — pan fiddwch chi'n câl ich whalu i bob man, bob un i'w getre i unan, a'n gadel i ar in ben in unan; ond wedyn weth fidda i ddim ar in ben in unan, achos ma'r Tad 'da fi. Dw i wedi gweud i pethe hyn wrthoch chi fel bo chi'n galler câl heddwch. Biddwch chi'n câl trwbwl in i byd. O peidwch chi becso, achos dw i wedi concro'r byd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help