Ioan 18 - The Four Gospels 2000 (Lyn Lewis Dafis) in Pembrokeshire Welsh

Iesu'n câl i aresto

1-11Pan wedo Iesu'r pethe 'ma i gyd, âth e mas 'da i ddisgiblion a croeshi nant Cidron. We gardd fa 'ny, a âth i ddisgiblion a finte miwn iddi. We jwdas, ir un we'n mind i roi e lan, in gwbod am y lle 'fyd achos we Iesu'n arfer cwrdd â'i ddisgiblion fan 'ny. Cwmro Jwdas grŵp o sowldwrs a gweishon i penffeiradon a'r Ffariseied, a dethon nhwy a lanteri, ffagle a arfe. Gwedo Iesu wrthon nhwy, a finte'n gwbod popeth we'n mynd i ddigwydd iddo fe, “Pwy ŷch chi'n ddrichid amdano?” Atebon nhwy, “Iesu o Nasareth.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Fi yw e.” We Jwdas 'fyd, ir un we in i roi e lan, in sefyll gidan nhwy. Pan wedo Iesu wrthyn nhwy, “Fi yw e”, ethon nhwy am nôl a cwmpo ar i ddeiar. So holodd e nhwy shwrne 'to, “Pwy ŷch chi'n ddrichid amdano?” Gwedon nhwy, “Iesu o Nasareth.” Atebo Iesu, “Wedes i wrthoch chi taw fi yw e. Os ŷch chi'n drichid amdana i, gadwch i'r dinion hyn fynd” — fel bo'r gair wedd e wedi'i weud in dod in wir, “Sena i wedi colli neb o'r rhei nes di roi i fi.” We cleddyf gida Simon Pedr, a fe dinodd hi mas a bwrw gwas i Ffeirad Mowr, a torri'i glust dde fe bant. Enw'r gwas we Malchus. Gwedo Iesu wrth Pedr, “Rho di gleddyf nôl. Sena i'n mynd i hifed o'r cwpan ma'n Dad wedi rhoi i fi?”

Mynd â Iesu at Annas

12-14Arestodd i grŵp o sowldwrs, i comander a'r gweishon Iddewig Iesu, i glwmu e lan a mynd ag e ginta'n deg at Annas, achos wedd e'n dad-ing-nghifreth i Caiaffas, we'n Ffeirad Mowr i flwyddyn 'ny. Caiaffas we'r un we wedi gweu 'tho'r Iddewon i bod hi'n gwd thing bo un dyn in marw dros i bobol.

Pedr in gweud bo fe ddim in ddisgibl i Iesu

15-18Dilyno Simon Pedr a disgibil arall Iesu. We'r Ffeirad Mowr in nabod i disgibil hwnnw, a âth e miwn i glos tŷ'r ffeirad mowr gida Iesu. Ond we Pedr in sefyll tu fas i'r drws. So âth i disgibil arall, we'r ffeirad mowr in nabiddus ag e, mas a sharad da'r ferch wrth i drws, a dod â fe miwn. Gwedodd i wrth Pedr, “Wit ti'n un o'i ddisgiblion e 'fyd?” Gwedodd e, “Nadw, sena i.” We'r gweishon a'r dinion erill wedi cinnu tân cols achos bo i'n wer, a we nhwy sefyll fan 'ny in twmo. We Pedr in sefyll fan 'ny 'fyd in twmo.

Iesu in câl i gwestjwno gan i fferiad mowr

19-24Gofino'r ffeirad mowr i Iesu obitu'i ddisgiblion ac obitu beth wedd e'n i ddisgu. Atebo Iesu. “Dw i wedi sharad in agored o flân i byd. Dw i wedi disgu in i sinagog a heb gwato ddim byd. Pam gofyn i fi? Hola'r rhei sy wedi cliwed fi beth wedes i wrthyn nhwy. Man nhwy in gwybod beth wedes i.” Wedi 'ddo weud hyn, bwrodd un o'r dinon we'n sefyll fan 'ny Iesu reit ar grwes i wmed, a gweud, “A 'na'r ffordd wit ti'n sharad 'da'r ffeirad mowr?” Atebo Iesu fe, “Os wdw i wedu gweud unrhiw beth in rong, dangos rwbeth i weud 'ny; ond os wedes i rwbeth sy'n iawn, pam in fwrw i?” Clwmodd Annas e lan a'i hala fe at Caiaffas i ffeirad mowr.

Pedr in gweud weth bo fe ddim in ddisgibl i Iesu

25-27We Simon Pedr in sefyll in twmo i unan. Gwedon nhwy wrtho fe, “Wit ti'n un o'i ddisgiblion e?” Pledodd e bo fe ddim; gwedodd e, “Nadw, sena i.” Gwedodd un o weishon i ffeirad mowr, perthynas i'r dyn we Pedr wedi torri'i glust e bant, “Weles i ti in ir ardd 'dag e, ondofe?” Shwrne 'to ma Pedr in gwadu, a whap ma'r ceilog in canu.

Mynd â Iesu at Pilat

28-40Ethon nhwy â Iesu wrth Caiaffas i bencadlys i Rheolwr. Wedd i'n damed bach cyn i'r houl godi. Ethon nhwy u hunen ddim miwn i'r pencadlys, fel na fidde'n nhw'n neud u hunen in fowlyd in grefyddol a wedyn in ffaelu bita'r Pasg. So dâth Pilat mas atyn nhwy a gweud, “Beth sy 'da chi weud in erbyn i dyn 'ma?” Atebon nhwy e, “Os bise dyn 'ma ddim in ddyn drwg a fisen ni wedi'i roi e ind i ddwylo di?” Gwedo Pilat wrtho fe, “Cerwch ag e ich hunen, a barnwch e fel ma'ch cifreth chi in i weud.” Gwedo'r Iddewon wrtho fe, “Senon ni â'r hawl i roi neb i farwoleth.” We hyn fel bo geirie Iesu in dod in wir pan wedodd e shwt wedd e'n mynd i farw. Âth Pilat nôl miwn i'r pencadlys, a galw Iesu i ddwâd ato fe a gweu 'tho, “Ti yw Brenin ir Iddewon?” Atebo Iesu, “Ti sy'n gweud 'na di unan, neu wes rhei erill wedi gweu 'tho ti amdana i?” Atebo Pilat, “Wdw i'n Iddew? Di bobol di a'r penffeiradon sy wedi di rhoi di lan i fi. Beth wit ti wedi'i neud?” Atebo Iesu, “Seno'n frenhineth i in dwâd o'r byd 'ma. Os bise'n frenhineth i in dwâd o'r byd 'ma bise'n weishon i wedi wmla, fel na bise'n i'n câl in roi lan i'r Iddewon; ond, fel ma i, senon'n frenhinieth in dod o fan 'yn.” Gwedo Pilat wrtho, “So wit ti'n frenin?” Atebo Iesu, “Ti sy'n gweud bo fi'n frenin. Dw i'n gweud bo fi wedi câl ing ngeni a wedi dwâd miwn i'r byd ar gownt hyn, i weud am i gwirionedd. Ma pobun sy â'r gwirionedd indyn nhwy in grondo ar in llaish i.” Gwedodd Pilat wrtho fe, “Beth yw gwirionedd?”

Pan wedd e wedi gweud hyn âth e mas 'to at ir Iddewon a gweu 'tho nhwy, “Sena i'n galler gweld dim byd indo fe i ateb; ond ma arfer 'da chi bo fi'n gadel dyn in rhydd ichi amser Cwrdde Mowr Pasg. Licech chi fi adel Brenin ir Iddewon in rhydd i chi?” Gweiddon nhwy nôl, “Ddim fe, ond Barabbas.” Lleidir we Barabbas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help