Luc 8 - The Four Gospels 2000 (Lyn Lewis Dafis) in Pembrokeshire Welsh

1-2Wedi hyn trafeilodd‑e trwy in tref fach a pentre wedi'i gilyd, in cihoeddi a prigethu Newyddion Da Teyrnas Dduw. We'r Douddeg 'dag e, a rhai o'r menwod we wedi câl u gwella o isbrydodd drwg a salwch. Rhein we Mair, we'n câl i galw in Magdalen, we saith cithrel wedi câl u towlu mas oni hi;

3Joannu, gwraig Chusa we'n drych ar ôl tir Herod; Susanna, a lot o rei erill. A we'r menwod hyn in gofalu amdanyn nhwy mas o'u harian u hunen.

4We crowd mowr in dod ato, dinion o lot fowr o drefi. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, mewn dameg,

5“Âth howr mas i hou i hâd. Fel wedd‑e'n hou, cwmpodd peth o'r hâd ar bwys ir hewl a nâth dinion ddamshel arno, a dâth adar a'i fita.

6-10Cwpodd peth ar graig, pan diddodd e nâth e wywo achos bo dim lleithder 'na. Cwpodd peth in ganol i drisi, a tiddu gida'r drisu, a châl i dagu. Cwpodd peth ar bridd da, a tiddu, a rhoi ffrwyth nôl ganwaith am beth gâs i hou in i lle cinta.” A wedi 'ddo weud i pethe hyn gweiddodd‑e mas, “Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.”

Holo'r disgiblion iddo beth we'r ddameg in goligu. Gwedodd‑e, “Ŷch‑chi wedi câl hawl i wbod beth yw cifrinach Teyrnas Dduw, ond ma'r rest in câl cliwed ar ddamegion, fel bo nhwy'n gweld heb ddirnad a cliwed heb ddiall.

11-25“'Co beth ma'r ddameg in goligu: Ir hâd yw neges Duw. Ma'r hâd gâs i hou ar bwys ir hewl in goligu i rhei sy wedi cliwed, ond wedyn ma'r jawl in dod a'n cwmrid i neges o'u meddilie, fel bo nhwy ddim in credu a câl u safio. Ma'r hâd gâs i hou ar graig in goligu'r rhei, pan man‑nhwy'n cliwed, in derbyn i neges in llowen, ond sdim gwreidde 'da nhwy; man‑nhwy'n credu am damed bach, ond pan ma treialon bowid yn dod ma‐nhwy'n cwmpo bant. Ma'r hâd gwmpodd in i drisi in goligu'r rhei sy wedi cliwed, ond wrth iddyn nhwy fynd ar u ffordd man‑nhwy'n câl u tagu 'da gofidie, 'da cifoth a plesere'r byd, a ddim in rhoi unrhiw ffrwyth in iawn. Ma'r hâd in i tir 'da in goligu'r dinion da a onest 'ny sy'n cliwed i neges, in dala'n sownd indo in u calone a'n sefill in gadarn nes bod i cineia in dod.

“Sneb in cinnu canwill a'n rhoi llester dros i phen, neu'n i rhoi 'ddi dan gwely. Nadyn, man‑nhwy i rhoi ddi mewn stand lamp, fel bo'r rhei sy'n dod miwn in galler gweld i gole. Achos sdim byd sy'n câl i gwato na fydd in dod miwn i'r gole, sdim byd wedi'i roi nôl na fydd in câl i wbod a'i ddangos. Biddwch in ofalus wedyn 'te shwt ŷch‑chi'n grondo; achos i'r rhei ma rhwbeth gida nhwy, ceith mwy i roi, a wrtho fe sdim byd 'dag e, bydd hyd‑'nôd beth mae‑e'n meddwl sy 'dag e in câl i gwmrid bant.”

Dâth i fam a'i frodyr ato, ond wen‑nhwy'n ffaelu mind miwn ato fe achos i crowd. Dâth dinion â'r hanes ato fe, “Ma di fam a di frodyr in sefyll tu-fas, a man‑nhwy am di weld di.” Atebodd‑e nhwy, “In fam i a'n frodyr i yw'r hrei sy'n cliwed neges Duw a'n neud rhwbeth amdano.”

Un dwarnod âth‑e a'i ddisgiblion miwn i gwch, a gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Gadwch inni groeshi i ochor arall i llyn.” So bant â nhwy. Wrth iddyn nhwy fynd cwmpodd‑e i gisgu. Dâth cwthwm o wynt lawr ar i llyn, we'r cwch in llewni 'da dŵr, a we pethe'n drych in ddansherus. Dethon‑nhwy ato fe a'i ddihuno, a gweud, “Mishtir, Mishtir, ŷn‑ni'n shinco.” Dihunodd‑e a sharad in grac 'da'r gwynt a'r dŵr rwff. Stopodd i mathew a we popeth in dawel. Gwedodd‑e wrthyn nhwy, “Ble ma'ch ffydd chi?” Dâth ofon arnyn nhwy a wen‑nhwy'n sinnu, in gweud wrth u gilydd, “Pwy yw hwn? Mae‑e'n rhoi ordors hyd‑'nôd i'r gwynt a'r dŵr, a man‑nhwy'n grondo arno fe.”

26Ethon‑nhwy in i cwch draw i ardal y Gerasenied, sy ari lan goddereb â Galilea.

27Pan âth‑e i'r lan dâth dyn o'r dre i gwrdd ag e. We cithreilied indo fe a amser hir wedd‑e ddim wedi gwishgo dillad; a wedd‑e ddim in byw miwn tŷ ond in i twme.

28Pan welodd‑e Iesu, gweiddodd‑e, cwpo lawr o'i flân e a gweud â llaish uchel, “Pam wit‑ti'n hanlo busnes 'da fi, Iesu, Crwt i Duw Mowr Uchel? Dw‑i'n begian arnot ti, pan neud dim byd cas ifi.”

29Achos wedd‑e'n rhoi ordors i'r isbryd bowlyd ddod mas o'r dyn. Wedd‑e wedi cidjo indo fe lot o weithe, a wen‑nhwy'n arfer i glwmu e lan 'da tjaens a lloithirie, a we dinion in drych ar i ôl e; ond wedd‑e'n arfer torri'r lloithirie a'r cithrel in i hala fe mas i'r lle diffeth.

30Holo Iesu iddo, “Beth yw di enw di?” Gwedodd‑e “Lleng”, achos we lot o githreilied wedi mynd miwn iddo.

31-56Begianon‑nhwy iddo fe beido u hala nhwy i fynd i le'r cithreilied. We lot fowr o foch in pori fan 'ny ar i mini; a begianodd i cithreilied i adel iddyn nhwy fynd miwn i'r moch. Nâth‑e 'ny. Dâth i cithreilied mas o'r dyn a mind miwn i'r mohc, a rhedon‑nhwy lawr dros i dwnshwn a miwn i'r llyn a châl u boddi. Pan welo'r rhei we'n drich ar ôl i moch beth we wedi digwydd fe redon‑nhwy bant a gweud beth we wedi digwydd trw'r dre a'r wlad obitu. Dâth dinion mas i weld beth we wedi digwydd. Dethon‑nhwy at Iesu a ffindo'r dyn we'r cithreilied wedi dod mas ono fe, in ishte wedi gwishgo a'n reit i feddwl wrth drâd Iesu, a we ofon arnyn nhwy. Gwedo'r rhei we wedi gweld i peth shwt we'r dyn â cithreilied wedi câl i wella. Gofinno bob un we'n byw in gwlad i Gerasenied iddo fynd bant, achos we ofon mowr arnyn nhwy. So âth‑e miwn i'r cwch a mynd nôl. Begianiodd i dyn we cithreilied wedi bod indo fe a gese‑fe ddwâd 'dag e, ond halodd‑e fe bant, a gweud, “Cer getre, a gwed beth 'ma Duw wedi 'neud i ti.” Âth‑e bant a chihoeddi trw'r dre beth we Iesu wedi neud iddo fe.

Fel we Iesu in dwâd nôl, we'r crowde in rhoi croeso iddo fe, achos wen‑nhwy i gyd in i ddishgwyl. Dâth dyn o'r enw Jairus, dyn mowr in i sinagog. Cwmpodd‑e wrth drâd Iesu, a begian arno fe i ddwâd i'w gaetre fe, achos dim ond un plentyn we dag e, rhoces douddeg mlwydd wedi, a wedd‑i'n marw.

Wrth 'ddo fynd ar i ffordd, we'r crowde in pwyso miwn arno. We menyw we wedi câl amser ofnadw ers douddeg mline achos hemerej fan 'ny — we neb in galler i gwella hi, ond wedd‑i sdil wedi hala popeth we 'da 'i ar ddoctoried. Dâth‑i lan tu ôl 'ddo fe a twtsh â gweilod i wishg e, a whap stopodd ir hemrej. Gwedo Iesu, “Pwy nâth dwtsh â fi?” Nâth bob un weud na nhwy we wedi neud, a gwedod Pedr, “Mishtir, we'r crowd rownd ti i gyd, a'n gwasgu miwn arnat ti.” Ond gwedo Iesu, “Nâth rhiwun dwtsh â fi; achos deimles‑i bo nerth wedi mynd mas ona i.” Pan stando'r fenyw bo hi ddim wedi dod ben â peido câl silw, 'co hi'n dwâd mlân in crinu i gyd a cwmpo lawr o'i flân e. A fan 'ny o flân i dinion i gyd egsbleinodd‑i pam wedd‑i wedi twtsh a gweilod i wishg e, a gweud i bod 'i wedi câl i gwella ar unweth. Gwedodd‑e wrthi, “In rhoces i, ma di ffydd di wedi di wella di. Cer miwn heddwch.”

Pan wedd‑e wrthi'n sharad, dâth rhiwun o dŷ dyn mowr i sinagog a gweud, “Ma di roces di wedi marw. Paid poeni mwy ar i Mishtir.” Cliwo Iesu hyn a gweu‑'tho, “Paid câl ofon. Dim ond creda, a geith‑i i neud in well.” Pan ddâth‑e i'r tŷ nâth‑e ddim gadel i neb ddod miwn 'dag e ond Pedr, Ioan a Iago, a tad a mam i plentyn. We'r dinion i gyd tu-fas in boichen lllefen a'n bwrw briste fel wen‑nhwy'n mwrno'r rhaoces. Gwedodd‑e, “Peidwch llefen. Sen‑i wedi marw; cisgu mae‑i.” Nethon‑nhwy sbort am i ben e, achos wen‑nhwy'n gwbod i bod hi wedi marw. Cidjodd‑e in i llaw hi, a gweiddi, “Coda, in blentyn i.” Dâth i hisbryd hi nôl ar unweth, a gododd‐i streit. Rhiodd-e ordors iddyn-nhwy roi rhwbeth iddi fita. Câs i thad a'i mham sioc fowr, ond roiodd‑e ordors iddyn‑nhwy beido gweud wrth neb beth we wedi digwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help