1-9Dachreuodd Iesu ddisgu wrth lan i llyn lweth, a dâth shwt i growd mowr rownd 'ddo fe fel âth‐e i gwch ar i llyn a ishte fan‐'ny. We'r bobol wedyn i gyd ar i lan, ar ochor i dŵr. Disgodd‐e lot o bethe iddon nhwy wrth weud damegion, a wrth u disgu nhwy medde‐fe, “Grondwch! Âth howr mas i hou. Nawr fel ddigwyddodd‐i, wrth iddo fe hou fe gwmpodd peth o'r had ar ochor ir hewl, a dâth ir adar a'i fita fe. Cwmpodd peth o'r had ar dir llond cerrig lle we ddim lot o bridd, ac fe diddodd whap achos bo dim dwnder pridd 'na; ond pan ddachreuodd ir houl sheino fe gath i losgi, a gwywodd‐e achos bo ddim gwreidde dag e. Cwmpodd peth o'r had i ganol drisi, a fe diddodd i drisi a'i dagu fe, a dâth dim byd ono fe. A cwmpodd peth o'r had ar dir da, fe wreiddodd e, tiddu a rhoi cinheia o ddeg‐ar‐ugen, trigen a chanweth gwmint o had nôl.” A gwedodd Iesu, “Os wes cluste da chi, iwswch nhwy.”
Pam gweud damegion?10-12Pan wedd‐e ar i ben i hunan fe ofino'r douddeg a'r lleill we 'dag e iddo fe obitu'r damegion. Wedodd‐e wrthon nhwy, “Ŷch‐chi wedi câl i fraint o wbod beth yw cifrinache Teyrnas Duw, ond ma'r lleill 'ma senon‐nhwy'n in ddilyn i in câl popeth miwn damegion 'da fi, fel u bo 'nhwy 'in drich a drich weth, on ddim in gweld dim; in cliwed a cliwed lweth, on ddim in diall dim; neu os bisen‐nhwy'n gweld a diall bisen‐nhwy'n troi a câl maddeuant.’ ”
Egsbleino beth we istyr dameg ir howr13-20Gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Senoch‐chi'n diall i ddameg 'ma? Shwt ma dishgwyl i chi ddiall unryw ddameg wedyn? Ir had ma'r howr in i hou yw'r Gair. Ma 'na rei ar bwys ir hewl lle ma'r Gair in câl i hou: pan man‐nhwy'n i glywed e ma Satan in dwâd whap a mynd bant â'r Gair sy wedi cal i hou iddon nhwy. Ma'r had sy'n cal u hou ar i tir llond cerrig in debyg i rheiny sy'n cliwed i Gair, in i dderbyn e'n itha jacôs; ond sdim gwreidde 'da nhwy a seno'n tiddu ond am damed bach; wedyn, ginted ma trwbwl neu erledigeth in dwâd o achos i Gair, man‐nhwy'n mynd bant in itha clou. Ma'r had sy'n cal i hou in ganol i drisi in debyg i'r dinion ny sy wedi cliwed i Gair, ond ma gofidie i byd, a whant am arian a phethe erill in dwâd miwn a tagu'r Gair, a seno‐fe'n rhoi dim ffrwyth ichi. Ma'r had sy'n cal u hou ar i pridd da in debyg i rheiny sy'n cliwed i Gair, in i dderbyn e, a'n rhoi nôl ichi deg‐ar‐hugen, trigen neu hyd 'n‐ôd ganweth gwmint.”
Rhoi lamp dan ddishgyl21-25Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Os bosib bo neb in cinnu lamp a'n i rhoi 'ddi o dan dishgyl neu o dan gwely? Senon‐nhwy'n i chinnu 'ddi a'i rhoi 'ddi ar stand? Sdim byd wedi câl i gwato ond in unswydd i gâl i ddangos in i pen draw, a sdim byd wedi câl i roi i gadw ond in unswydd i ddwâd ag e mas in i pen draw. Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.”
Gwedodd‐e wrthon nhwy to, “Silwch ar beth ŷch‐chi'n i gliwed. Fel ŷch‐chi'n rhoi ŷch‐chi'n mynd i gâl, a hyd 'n‐ôd câl mwy na 'ny. I'r dyn sydd â rwbeth 'dag e'n barod bydd hyd 'n‐ôd mwy in câl i roi; a'r dyn sydd â dim 'dag e, wel bydd hyd 'n‐ôd beth sy 'dag e in câl i gwmrid bant wrtho fe.”
Dameg ir had in tiddu26-29Gwedodd‐e, “Ma teyrnas Duw fel hyn: ma dyn in towlu had ar i ddeiar; bob bore a nos mae‐e'n cisgu a dihuno; a ma'r had in egino a tiddu, ond seno‐fe'n gwbod shwt. Ma'r ddeiar i hunan in rhoi crop, in ginta'r blagur glas, wedyn i brig, wedyn i brig in llawn. Pam ma'r crop in barod mae e'n cwên, achos bo'r amser wedi dwâd i neud 'ny.”
Dameg ir hadyn mwstard30-32Gwedodd Iesu 'to, “Shwt gallwn ni gimharu Teyrnas Dduw 'da unriwbeth? Pwy ddameg allen‐ni iwso i ddisgreibo hi a'i diall hi? Mae‐i fel hadyn mwstard. Pan ma'r hadyn in câl i hou in i lle cinta mae‐e'n llai na unrhyw hadyn arall in i byd. Ond wedi 'ddo gâl i hou, mae‐e'n dwâd lan a'n tiddu'n fwy o seiz na unryw blansyn arall, ma canghene mowr in tiddu arno, a ma'r adar in nitho in i gisgod e.”
Iesu'n gweud lot o ddamegion33-34Wedo Iesu lot o bethe erill wrthon nhwy am i Gair in iwso damegion fel hyn fel i bo nhwy'n galler diall. Sdim ots pryd wedd‐e'n sharad 'da nhwy, wedd‐e'n iwso damegion, on wedd e'n egsbleino popeth i'r disgiblion pa na we neb arall 'na.
Tawelu'r storom ar Lyn Galilea35-41A'r dwarnod 'ny, pan wedd‐i'n nosi, gwedodd Iesu wrthon nhwy, “Licen‐i i ni fynd i ochor arall i llyn, 'no”. So gadon‐nhwy'r crowd lle wên‐nhwy, a fe ethon‐nhwy ag e 'da nhwy, jwst fel wedd e, in i cwch. We cichod erill fan‐'na gida nhwy fyd. Dâth cwthwn o wynt a dachreuodd hi hwthu, a tima'r tonne in bwrw in erbyn i cwch fel i fod e'n llanw â dŵr. On we Iesu'n cisgu ar gwshin in gwt i cwch. Dihunon‐nhwy e a gweu‐'tho fe, “Mishtir, ŷn‐ni'n shinco. Senot‐ti'n becso dim byd?” Dihunodd‐e, rhoi stwr i'r gwynt, a gweu‐'th i dŵr, “Dawel, by' dawel”. Tawelodd i gwynt a âth popeth in dawel i gyd. A gwedodd‐e wrthon nhwy, “Pam we shwt gwmint o ofon arnoch chi? Sdim ffydd da chi to?” We ofon mowr arnon nhwy, a wedon nhwy wrth i gily, “Pwy alle hwn fod, achos ma hyd 'n‐ôd i gwynt a'r môr in grondo arno fe?”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.