Mathew 19 - The Four Gospels 2000 (Lyn Lewis Dafis) in Pembrokeshire Welsh

1-30Nawr pan we Iesu wedi pennu gweud i pethe 'ma, gadodd e Galilea a dod i wlad Jwdea ochor arall i afon Iorddonen. Dilino crowde mowr e, a nâth e wella nhwy fan 'ny.

Dâth Ffariseied ato fe i desto fe a gofyn, “Ody 'ddi iawn i ddyn ddiforso'i wraig o gwbl?” Atebodd e, “Senoch chi wedi darllen fod i Creawdwr o'r dachre wedi neud dinion in wrwod a menwod, a'i fod e wedi gweud,

“Achos hyn bydd dyn in gadel i dad a'i fam

a mynd at i wraig,

a bydd i ddou in mynd in un”?

So wedyn 'te, ddim dou o nhwy sy, ond un. Wedyn ddile dyn ddim rhannu beth ma Duw wedi rhoi at i gily.” Gwedon nhwy wrtho fe, “Pam roiodd Moses ordros i roi papure difors a'i hala hi bant?” Gwedodd e wrthyn nhyw, “We Moses in gwbod faint mor gled we’ch calone chi a nâth e adel ichi ddiforso’ch gwragedd; ond ddim fel 'na wedd i o'r dachre. Dw i'n gweu 'thoch chi os ma dyn in diforso'i wraig, ond am achos i bod hi wedi bod 'da dyn arall, a'n priodi rhiwun arall, mae e'n godinebu.” Gwedodd i ddisgiblion wrtho fe, “Os 'na shwt ma pethe rhynt gŵr a gwraig, wedyn ma i'n well peido priodi in i lle cinta.” Gwedodd e wrthyn nhwy, “Sdim bob un in folon derbyn hyn, dim ond i rhei mae e wedi'i roi iddyn nhwy; achos ma 'na eunuchied i gâl sy wedi bod fel 'ny 'ddar iddyn nhwy gâl u geni, a ma 'na eunuchied erill sy wedi câl i neud in eunuchied trw law dinion, a ma 'na eunuchied erill sy wedi neud u hunen in eunuchied er mwyn Teyrnas Nefodd. Gadwch i bobun sy'n galler derbyn hyn i dderbyn e.”

Wedyn dethon nhwy â plant ato fe fel galle fe roi'i ddwylo arnyn nhwy a gweddïo; ond sharadodd i disgiblion in sharp 'da'r rhei wen dwâd â nhwy. Ond gwedo Iesu, “Gadwch i'r plant fod. Peidwch stopop nhwy ddwâd ata i, achos rhei fel hyn sy pia Teyrnas Nefodd.” Rhoiodd e i ddwylo arnyn nhwy a wedyn âth e mlân.

Dâth dyn a gweu 'tho fe, “Mishtir, pwy beth da sy ishe ifi neud i gâl byw am byth?” Gwedodd e wrtho, “Pam wit ti'n gofyn i fi obitu beth sy'n dda? Dim ond Un sy'n dda. Os wit ti ishe mind miwn i fowid, cadwa'r gorchminion.” Gwedodd e wrtho, “Pwy rei?” Atebo Iesu, “Paid lladd, Paid godinebu, Paid dwyn, Paid gweud celwy am ddinion, Dricha ar ôl di dad a di fam; a, Rhaid iti garu di gwmwdog fel ti di ‘unan.” Gwedo'r dyn ifanc wrtho fe, “Dwi wedi cadw'r pethe 'ma i gyd; beth arall sy ishe arna i?” Gwedo Iesu wrtho, “Os wit ti ishe bod in berffeth, cer a gwertha popeth sy 'da ti a rho'r arian i'r bobol lwm, a bydd trisor 'da ti in i nefodd; wedyn dere a'n ddilyn i.” Ond pan gliwo'r crwt ifanc fe'n gweud hyn, bant ag e in drist; achos wedd e'n berchen ar lot fowr o bethe.

Gwedo Iesu wrth i ddisgiblion, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch ch, bydd i'n galed iawn i ddyn cifoethog fynd miwn i Deyrnas Nefodd. Dwi'n gweu 'tho chi siwrne 'to, mae'n rhwyddach i gamel fynd trwy groi nedwy na yw hi i ddyn cifoethog fynd miwn i Deyrnas Duw.” Gath i disgiblion sindod mowr i gliwed hyn, a gweud, “Pwy wedyn 'te gall gâl i achub?” Drichodd Iesu arnyn nhw a gweud, “So'r peth in bosib 'da dinion, ond 'da Duw ma popeth in bosib.”

Wedyn gwedodd Pedr, “Beth amdnon ni? Ŷn ni wedi gadel popeth i di ddilyn di. Beth gewn ni?” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Dwi'n gweud i gwir wrthoc chi, pan bydd popeth in câl i neud in newy, pan bydd Crwt i Dyn in ishte ar i orsedd wych, biddwch chi sy wedi'n ddilyn i in ishter ar ddouddeg gorsedd, in barnu douddeg llwyth Isrel. A bydd unrhyw un sy wedi gael tai, brodyr, whiorydd, tad, mam, plant neu dirodd in in enw i in câl canweth gwmint nôl a bowid am byth. Bydd lot o'r rhei sy ginta in ddwetha, a'r dwetha in ginta.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help