1Ac yna y bendithiodd Duw Nöe a’i feibion; ac Efe a ddywedodd wrthynt, “Amlhëwch, a lluosogwch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi.
2A bydd eich ofn a’ch arswyd chwi ar holl fwystfilod y ddaiar, ar holl ehediaid y nefoedd, ac ar yr hyn oll a ymsymmudo ar y ddaiar, ac ar holl bysgod y môr: yn eich llaw chwi y rhoddais hwynt.
3Hefyd, pob ymsymmudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y rhoddaswn ar y cyntaf y gwyrdd lysienyn, felly rhoddais i chwi yn awr bob dim.
4Ond na fwytëwch gig yng nghyd â gwaed einioes;
5canys yn ddiau gwaed eich einioes chwithau a ofynaf Fi: o law pob bwystfil y gofynaf ef; ac o law dyn, o law ei frawd y gofynaf einioes dyn
6A dywallto waed dyn, am y gwaed hwnw tywelltir ei waed yntau; o herwydd ar ddelw Duw y gwnaethym ddyn.
7Ond chwychwi, amlhëwch, lluosogwch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi.”
8Hefyd, Duw a lefarodd wrth Nöe ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd,
9“Ac wele! Myfi ydwyf yn cadarnhau Fy nghyfammod â chwi, ac â’ch had ar eich ol chwi;
10ac â phob peth byw yr hwn sydd gyda chwi, yn ehediaid ac yn anifeiliaid, ac â holl fwystfilod y ddaiar, cynnifer ag sydd gyda chwi, o’r rhai oll sydd yn myned allan o’r arch.
11A Mi a gadarnhâf Fy nghyfammod â chwi; ac ni thorir ymaith bob cnawd mwy gan y dwfr dylif; ac ni bydd dylif dwfr mwy i ddyfetha yr holl ddaiar.”
12Dywedodd hefyd yr Arglwydd Dduw wrth Nöe, “Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn yr ydwyf Fi yn ei roddi rhyngof Fi a chwi, ac â phob peth byw a’r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol.
13Fy mwa yr ydwyf yn ei osod yn y cwmwl; ac efe a fydd yn arwydd cyfammod rhyngof Fi a’r ddaiar.
14A bydd, pan gasglwyf gymylau dros y ddaiar, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl;
15ac Mi a gofiaf fy nghyfammod, yr hwn sydd rhyngof Fi a chwi, ac â phob peth byw o bob cnawd; ac ni bydd y dwfr yn ddylif mwy, i ddyfetha pob cnawd.
16A bydd fy mwa yn y cwmwl, ac Mi a edrychaf gofio o honof y cyfammod tragwyddol rhyngof Fi a’r ddaiar, ac â phob peth byw o bob cnawd a’r y sydd ar y ddaiar.”
17Hefyd, dywedodd Duw wrth Nöe, “Dyma arwydd y cyfammod, yr hwn a gadarnheais rhyngof Fi a phob cnawd a’r y sydd ar y ddaiar.”
18A meibion Nöe, y rhai a ddaethant allan o’r arch, oeddynt Sem, Cham, a Iapheth. Ond Cham oedd dad Chanaan.
19Y tri hyn oeddynt feibion Nöe; ac o’r rhai hyn yr ymwasgarodd dynion dros yr holl ddaiar.
20A dechreuodd Nöe fod yn llafurwr, ac efe a blanodd winllan;
21ac a yfodd o’r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yn ei dy.
22A gwelodd Cham, tad Chanaan, noethni ei dad; ac efe a aeth ymaith, ac a fynegodd i’w ddau frawd allan.
23Yna y cymmerodd Sem a Iapheth ddilledyn, ac a’i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad, a’u gwynebau yn ol, fel na welent noethni eu tad.
24A phan ddeffrôdd Nöe o’i win, a gwybod o hono beth a wnaethai ei fab ieuengaf iddo,
25efe a ddywedodd, “Melltigedig fydd Chanaan: gwas gweision i’w frodyr fydd”.
26Dywedodd hefyd, “Bendigedig fydd Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef!
27Duw a helaetha ar Iapheth; a phreswylied ym mhebyll Sem; a bydded Chanaan yn was iddo.”
28A bu Nöe fyw wedi y dylif ddeng mlynedd a deugain a thri chan mlynedd.
29Felly holl ddyddiau Nöe oeddynt ddeng mlynedd a deugain a naw cant; ac efe a fu farw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.