1Felly y gorphenwyd y nefoedd, a’r ddaiar, a’u holl addurn hwynt.
2Ac ar y chweched dydd y gorphenodd Duw ei waith, yr hwn a wnaethai Efe, ac a orphwysodd ar y seithfed dydd oddi wrth Ei holl waith, yr hwn a wnaethai Efe.
3A Duw a fendigodd y seithfed dydd, ac a’i sancteiddiodd ef; o blegid ynddo y gorphwysasai oddi wrth Ei holl waith, yr hwn a ddechreuasai Duw ei wneuthur.
DOSBARTH IIHanes manylach o Eden, Cread Dyn, &c.4Dyma lyfr dechreuad y nefoedd a’r ddaiar, pan grewyd hwynt; yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw y nefoedd a’r ddaiar;
5a phob planigyn y maes, cyn bod o hono ar y ddaiar; a phob llysieuyn y maes cyn tarddu allan; o blegid ni pharasai Duw wlawio ar y ddaiar, ac nid oedd dyn i lafurio y ddaiar:
6ond ffynnon oedd yn tarddu o’r ddaiar, ac yn dyfrhau holl wyneb y ddaiar.
7A phan luniasai Duw y dyn o bridd y ddaiar, ac a anadlasai yn ei ffroenau anadl einioes, yna yr aeth y dyn yn enaid byw.
8Hefyd yr Arglwydd Dduw a blanodd ardd yn Eden, o du y dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai Efe.
9A gwnaeth Duw hefyd i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren er gwybod yr hyn a wybyddir o dda a drwg, dyfu allan o’r ddaiar.
10Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd; ac oddi yno hi a ymranodd yn bedwar pen.
11Enw un yw Pison; hon sydd yn amgylchu holl wlad Efilat, lle y mae yr aur.
12Ac aur y wlad hòno sydd dda: yno hefyd y mae yr anthracs, a’r maen prasinos.
13Ac enw yr ail afon yw Gewn; hòno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia.
14A’r drydedd afon yw Tigris: y mae hon yn myned gyferbyn â’r Assyriaid. A’r bedwaredd afon yw Euphrates.
15A’r Arglwydd Dduw a gymmerodd y dyn a luniasai Efe; ac a’i gosododd ef yng ngardd Hyfrydwch, i’w llafurio ac i’w chadw hi.
16A’r Arglwydd Dduw a orchymmynodd i Adda, gan ddywedydd, “O bob pren o’r ardd, gan fwyta er ymborth, y gelli fwyta;
17ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytëwch o hono; o blegid ym mha ddydd bynag y bwytaoch o hono, gan farw y byddwch feirw.”
18Hefyd yr Arglwydd Dduw a ddywedodd, “Nid da fod y dyn ei hunan; gwnawn iddo help fel ef ei hun:”
19canys, er y lluniasai Duw, yn chwanegol, o’r ddaiar, holl fwystfilod y maes, a holl ehediaid y nefoedd, ac a’u dygasai hwynt at Adda, i weled pa enw a roddai efe iddynt — fel, pa fodd bynag yr enwai Adda y creadur byw, hyny a fyddai ei enw ef:
20ac er yr enwasai Adda enwau ar yr holl anifeiliaid, ac ar holl ehediaid y nefoedd, ac ar holl fwystfilod y maes; eto ni chafwyd i Adda help fel ef ei hun.
21Ac am hyny y dygodd Duw lewyg ar Adda, ac efe a gysgodd; yna Duw a gymmerodd un o’i asenau ef, ac a gauodd gig yn ei lle.
22A Duw a wnaeth yr asen a gymmerasai Efe o Adda, yn wraig, ac a’i dug hi at Adda.
23Ac Adda a ddywedodd, “Hon weithian sydd asgwrn o’m hesgyrn i, a chnawd o’m cnawd i: hon a elwir Gwraig, o blegid o’i gwr y cymmerwyd hi.”
24O herwydd hyn yr ymedy gwr â’i dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; a hwy a fyddant eill dau yn un cnawd.
25Ac yr oeddynt eill dau yn noethion, Adda a’i wraig; ac nid oedd arnynt gywilydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.