Genesis 6 - Welsh Septuagint, Genesis 1-10:2, 1866 (Evan Andrews)

DOSBARTH VIDrygioni Dyn, a’r Dylif.

1Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar y ddaiar, a geni merched iddynt,

2weled o feibion Duw ferched dynion, mai teg oeddynt: hwy a gymmerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasent.

3A dywedodd yr Arglwydd Dduw, “Nid erys Fy Ysbryd I gyda’r dynion hyn yn dragywydd, o blegid mai cnawd ydynt hwy; eithr eu dyddiau a fyddant ugain mlynedd a chant.”

4Cawri oedd ar y ddaiar y dyddiau hyny; ac wedi hyny, pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hyny iddynt; dyma y cawri, y gwŷr enwog gynt.

5Ond pan welodd yr Arglwydd Dduw mai aml oedd drygioni dynion ar y ddaiar, a bod pob un yn bwriadu yn ofalus yn ei galon yr hyn sy ddrwg, bob amser;

6yna y rhoddodd Duw hyn at ei galon, sef gwneuthur o hono Ef ddyn, ac a ddwys ystyriodd y peth.

7Felly Duw a ddywedodd, “Dileaf ddyn, yr hwn a wnaethym, oddi ar wyneb y ddaiar, o ddyn hyd anifail, ac o ymlusgiaid hyd ehediaid y nefoedd; canys Mi a roddais hyn at Fy nghalon, wneuthur o honof hwynt.”

8Ond Nöe a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd Dduw.

9Dyma genedlaethau Nöe. Nöe oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei genedlaeth: a Nöe a ryngodd fodd Duw.

10A Nöe a genedlodd dri o feibion, Sem, Cham, Iapheth.

11Ond y ddaiar a lygresid ger bron Duw; llanwesid y ddaiar hefyd â thrawsedd.

12A’r Arglwydd Dduw a edrychodd ar y ddaiar; a hi a lygresid, canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaiar.

13Yna y dywedodd yr Arglwydd Dduw wrth Nöe, “Amser pob dyn a ddaeth ger Fy mron; o blegid llanwyd y ddaiar â thrawsedd trwyddynt hwy! Ac wele, Myfi a’u dyfethaf hwynt a’r ddaiar!

14Gwna it’ gan hyny arch o goed pedrorawl: yn gellau y gwnai yr arch; a phyga hi oddi fewn ac oddi allan â phyg.

15Ac fel hyny gwnai di yr arch; tri chan cufydd fydd hyd yr arch, a deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.

16Gwna fwrdd yr arch ar osgo, a gorphen ef yn gufydd oddi arnodd; a drws yr arch ti a osodi yn ei hystlysau: â lloriau isaf, ail, a thrydydd y gwnai di hi.

17Ac wele, Myfi yn dwyn dylif, dwfr ar y ddaiar, i ddyfetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd; a’r hyn oll sydd ar y ddaiar a drenga.

18Ond â thi y cadarnhaf Fy nghyfammod; ac i’r arch yr ai di, a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi:

19ac o’r holl anifeiliaid, ac o’r holl ymlusgiaid, ac o’r holl fwystfilod, ïe, o bob cnawd, y dygi ddau a dau o honynt oll i’r arch, fel y porthech hwynt gyda thi: gwryw a benyw fyddant.

20O’r holl ehediaid asgellog wrth eu rhywogaeth, ac o’r holl anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r holl ymlusgiaid a ymlusgant ar y ddaiar wrth eu rhywogaeth: dau a dau o honynt oll a ddeuant atat i’w porthi genyt, sef y gwryw a’i fenyw.

21Cymmer dithau i ti o bob bwyd a fwytaoch, a chasgl atat, a bydd yn ymborth i ti, ac iddynt hwythau.”

22Yna y gwnaeth Nöe yr hyn oll a orchymmynasai yr Arglwydd Dduw iddo felly y gwnaeth efe.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help