Genesis 4 - Welsh Septuagint, Genesis 1-10:2, 1866 (Evan Andrews)

DOSBARTH IVHanes Cain ac Abel.

1Ac Adda a adnabu Efa, ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, “Cefais wr gan Dduw.”

2A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef, Abel. Ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaiar.

3A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn, o adgen y ddaiar, offrwm i’r Arglwydd.

4Ac Abel yntau hefyd a ddug o gyntafenedigion ei ddefaid, ac o’u brasder hwynt. A Duw a edrychodd ar Abel, ac ar ei roddion ef;

5ond ni edrychodd Efe ar Cain, nac ar ei offrymau ef: ac ymofidiodd Cain yn ddirfawr, ac ymollyngodd yn ei wynebpryd.

6A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth Cain, “Pa ham yr wyt yn athrist? a pha ham yr ymollyngodd dy wynebpryd?

7Er offrymu o honot yn iawn, ond heb ei ranu yn iawn, oni phechaist? Ymlonydda; atat ti y bydd ei ddychweliad; a thi a lywodraethi arno ef.”

8A Chain a ddywedodd wrth Abel, ei frawd, “Awn allan i’r maes.” A bu, tra yr oeddynt hwy yn y maes, i Cain godi yn erbyn Abel, ei frawd, ac a’i lladdodd ef.

9A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth Cain, “Mae Abel, dy frawd?” Yntau a ddywedodd, “Nis gwn. Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?”

10A’r Arglwydd a ddywedodd, “Beth a wnaethost? Llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf Fi o’r ddaiar.

11Ac yn awr melltigedig wyt ti o’r ddaiar, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.

12Pan lafuriech y ddaiar, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; yn griddfan ac yn crynu y byddi ar y ddaiar.”

13Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd Dduw, “Mwy yw fy mhechod nag y gellir ei faddeu!”

14“Os gyraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaiar, ac o’th ŵydd Di y’m cuddir, ac yn griddfan ac yn crynu y byddaf ar y ddaiar; yna y bydd i bwy bynag a’m caffo, fy lladd.”

15A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrtho, “Nid felly: pwy bynag a laddo Cain, a dâl y pwyth yn saith ddyblyg.” A’r Arglwydd Dduw a roddodd arwydd i Cain, na fyddai i neb a’i caffai, ei ladd ef.

16Felly Cain a aeth allan o ŵydd Duw, ac a drigodd yng ngwlad Nod, ar gyfer Eden.

17A Chain a adnabu ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr oedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd y ddinas yn ol enw ei fab, Enoch.

18Ac i Enoch y ganwyd Gaidad; a Gaidad a genedlodd Maleleel; a Maleleel a genedlodd Mathusala; a Mathusala a genedlodd Lamech.

19A Lamech a gymmerodd iddo ddwy wraig; enw un oedd Ada, ac enw yr ail, Sela.

20Ac Ada a esgorodd ar Iobel: hwn oedd tad preswylwyr pebyll, yn porthi anifeiliaid.

21Ac enw ei frawd ef oedd Iubal: hwn oedd ddychymmygydd y psalterion a’r delyn.

22A Sela, hithau, hefyd a esgorodd ar Thobel; ac yr oedd efe yn fwrthwyliwr pres a haiarn: a chwaer Thobel oedd Noema.

23A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, “Ada a Sela, clywch fy llais! gwragedd Lamech, gwrandëwch fy ngeiriau! canys mi a leddais wr i’m harcholl, a llanc i’m clais.

24Gan y dialwyd Cain seithwaith, yna Lamech a ddielir saith-ddeng-seithwaith.”

DOSBARTH VHiliogaeth Adda, trwy linach Seth, hyd Nöe.

25Ac Adda, a adnabu Efa, ei wraig, a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac a alwodd ei enw ef Seth, gan ddywedyd, “O herwydd Duw a gyfododd i mi had arall yn lle Abel, yr hwn y lladdodd Cain ef.”

26Ac i Seth y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos; efe a ddysgwyliodd gael ei enwi ar enw yr Arglwydd Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help