Genesis 1 - Welsh Septuagint, Genesis 1-10:2, 1866 (Evan Andrews)

DOSBARTH IHanes y Cread, a Sefydliad y Sabbath

1Yn y dechreuad y gwnaeth Duw y nefoedd a’r ddaiar.

2Ond y ddaiar oedd anweledig ac annhrefnus; a thywyllwch oedd ar y dyfnder; ac Ysbryd Duw yn ymsymmud ar y dwfr.

3A Duw a ddywedodd, “Bydded goleuni;” a goleuni a fu.

4A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd; a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch.

5A Duw a alwodd y goleuni yn “Ddydd,” a’r tywyllwch a alwodd Efe yn “Nos.” A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, un dydd.

6Duw hefyd a ddywedodd, “Bydded ffurfafen yng nghanol y dwfr; a bydded hi yn gwahanu rhwng dwfr a dwfr;” ac felly yn bu:

7canys Duw a wnaeth y ffurfafen; Duw hefyd a wahanodd rhwng y dwfr ag oedd oddi tan y ffurfafen, a’r dwfr ag oedd oddi ar y ffurfafen

8A’r ffurfafen a alwodd Duw yn “Nefoedd;” a Duw a welodd mai da oedd. A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, yr ail ddydd.

9Duw hefyd a ddywedodd, “Casgler y dwfr oddi tan y nefoedd i’r un gronfa; ac ymddangosed y sychdir;” ac felly y bu; canys ymgasglodd y dwfr oddi tan y nefoedd, i’w gronfëydd; ac ymddangosodd y sychdir.

10A’r sychdir a alwodd Duw yn “Ddaiar;” ac ymgasgliadau y dyfroedd a alwodd Efe yn “Foroedd:” a Duw a welodd mai da oedd.

11A Duw a ddywedodd, “Egined y ddaiar egin llysiau, llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, ac wrth eu llun; a’r pren ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, yr hwn y mae ei had ynddo, wrth ei rywogaeth ar y ddaiar;” ac felly y bu:

12canys y ddaiar a ddug egin llysiau, llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, ac wrth eu llun; a’r pren ffrwythlawn yn dwyn ffrwyth, yr hwn y mae ei had ynddo, wrth ei rywogaeth ar y ddaiar: a Duw a welodd mai da oedd.

13A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, y trydydd dydd.

14Duw hefyd a ddywedodd, “Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar, ac i wahanu rhwng y dydd a’r nos: byddant hefyd yn arwyddion, ac yn dymmorau, ac yn ddyddiau, ac yn flynyddoedd.

15(A byddant yn oleuni yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaiar;)” ac felly y bu:

16canys Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu y dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu y nos: y ser hefyd a wnaeth Efe

17Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaiar,

18ac i lywodraethu y dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a Duw a welodd mai da oedd.

19A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, y pedwerydd dydd.

20Duw hefyd a ddywedodd, “Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw; a bydded ehediaid yn ehedeg uwch y ddaiar, yn ffurfafen y nefoedd;” ac felly y bu:

21canys Duw a wnaeth y morfeirch mawion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd wrth eu rhywogaeth; a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oeddynt.

22A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, “Lluosogwch, ac amlhëwch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd a lluosoged yr ehediaid ar y ddaiar.”

23A’r hwyr a fu, a’r boreu a fu, y pummed dydd.

24Duw hefyd a ddywedodd, “Dyged y ddaiar bob peth byw wrth ei rywogaeth, yn bedwar-carnolion, ac yn ymlusgiaid, a bwystfilod y ddaiar wrth eu rhywogaeth;” ac felly y bu:

25canys Duw a wnaeth fwystfilod y ddaiar wrth eu rhywogaeth, ar anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, a holl ymlusgiaid y ddaiar wrth eu rhywogaeth: a gwelodd Duw mai da oeddynt.

26Duw hefyd a ddywedodd, “Gwnawn ddyn ar Ein delw, ac wrth Ein llun Ein Hunian; ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar yr anifeiliaid, ac ar yr holl ddaiar, ac ar yr holl ymlusgiaid a ymlusgont ar y ddaiar.”

27Felly Duw a wnaeth y dyn; ar ddelw Duw y gwnaeth Efe ef; yn wryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt.

28Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, “Lluosogwch, ac amlhëwch, a llenwch y ddaiar, a darostyngwch hi ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediaid y nefoedd, ac ar yr holl anifeiliaid, ac ar yr holl ddaiar, ac ar yr holl ymlusgiaid a ymlusgont ar y ddaiar.”

29A Duw a ddywedodd, “Wele, rhoddais i chwi bob llysieuyn heuawl, yn hadu had, yr hwn sydd ar yr holl ddaiar; a phob pren, yr hwn y mae ynddo ffrwyth had heuawl, i chwi y bydd yn fwyd.

30Hefyd i holl fwystfilod y ddaiar, ac i holl ehediaid y nefoedd, ac i bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaiar, yr hwn y mae einioes ynddo, y rhoddais bob llysienyn gwyrdd yn fwyd:” ac felly y bu.

31A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai; ac wele, da iawn ydoedd. Felly yr hwyr a fu, a’r boreu a fu, y chweched dydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help