Marc 16 - Duw ar waith (The Good News According to Mark) 1990

16. IESU YN ATGYFODIAtgyfodiad Iesu (Marc 16:1-8)

1-8Pan oedd y Saboth drosodd, prynodd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Salome, beraroglau, er mwyn eneinio corff Iesu. Yn fore iawn, ar y dydd cyntaf o'r wythnos, daethon nhw at y bedd. Ar y ffordd dwedon nhw wrth ei gilydd, “Pwy a gawn ni i symud y garreg sy ar draws yr agoriad?” Wedi iddyn nhw gyrraedd y man ac edrych i fyny, gwelon nhw fod y garreg fawr wedi'i symud. Aethon nhw i mewn i'r bedd, a gweld dyn ifanc mewn gwisg laes, wen yn eistedd ar yr ochr dde. Cawson nhw dipyn o fraw, ond dwedodd y dyn wrthyn nhw am beidio â phryderu. “Rydych chi'n ceisio Iesu o Nasareth a groeshoeliwyd. Dydy e ddim yma, mae e wedi cyfodi. Edrychwch, dyma'r lle y rhoddon nhw fe i orwedd. Ewch a dwedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr, ‘Mae e'n mynd o'ch blaen chi i Galilea, ac fe gewch ei weld yno, fel y dwedodd wrthoch chi.’ ” Rhedon nhw allan o'r bedd yn crynu gan ofn, ond ddwedon nhw ddim wrth unrhyw un.

Iesu'n Ymddangos i Fair Magdalen (Marc 16:9-11)

9-11Wedi i Iesu atgyfodi, yn fore ar ddydd cyntaf yr wythnos, ymddangosodd i Fair Magdalen i ddechrau. Cyn hynny, roedd e wedi bwrw saith gythraul allan ohoni. Aeth hi, a dweud y newyddion wrth ei ddilynwyr yn eu tristwch. Doedden nhw ddim yn credu bod Iesu yn fyw a'i bod hithau wedi ei weld.

Iesu'n Ymddangos i Ddau Ddisgybl (Marc 16:12-13)

12-13Ar ôl hynny, ymddangosodd Iesu eto mewn modd arall i ddau o'r disgyblion fel roedden nhw'n cerdded ar eu ffordd i'r wlad. Aethon nhw i ffwrdd a dweud wrth y lleill, ond doedden nhw ddim yn credu chwaith.

Rhoi Comisiwn i'r Disgyblion (Marc 16:14-18)

14-18Ar ôl hyn i gyd, ymddangosodd Iesu i'r un disgybl ar ddeg pan oedden nhw'n cael bwyd, a dwedodd wrthyn nhw am eu diffyg ffydd a'u hystyfnigrwydd yn peidio â chredu'r rhai oedd wedi'i weld ar ôl iddo atgyfodi. Dwedodd, “Ewch i'r holl fyd a chyhoeddwch y Newyddion Da i bawb. Bydd y rhai sy'n credu a chael eu bedyddio yn cael eu hachub, ond bydd y rhai sy'n gwrthod credu yn cael eu condemnio. Hefyd, bydd y credinwyr yn gallu bwrw allan gythreuliaid yn fy enw i, a siarad mewn ieithoedd dieithr. Ddaw dim niwed iddyn nhw o afael mewn nadroedd nac o yfed gwenwyn marwol, a phan ddodan nhw eu dwylo ar gleifion, bydd rheini'n gwella.”

Esgyniad Iesu (Marc 16:19-20)

19-20Wedi iddo siarad â nhw, cafodd yr Arglwydd Iesu ei gymryd i fyny i'r nef ac eisteddodd ar law dde Duw. Aeth y disgyblion allan a phregethu ym mhobman, a'r Arglwydd yn cadarnhau eu gwaith gyda gwyrthiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help